Hoffwn wneud coridor yr M4 yn fwy diogel ac effeithlon i bob defnyddiwr ffordd
Trosolwg
Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn
Mae’r dudalen hon yn adlewyrchu ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd. Cafodd rhaglen newydd ei chyhoeddi yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.
Byddwn yn cyhoeddi tudalennau newydd ar y wefan er mwyn adlewyrchu’r rhaglen newydd.
Pam ydyn ni’n gwneud y gwaith
Y ffordd bresennol:
- mae nifer uchel o ddamweiniau sy'n ymwneud â cherbydau yn digwydd arni
- mae llawer o fannau arni lle mae cerbydau'n cael gwrthdrawiadau ar gyflymder uchel
- nid yw'n cynnig llawer o gyfleoedd i feicio na cherdded yn ddiogel
- nid yw wedi'i chynllunio i gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus fel bysiau.
Cynnydd ar hyn o bryd
Rydyn ni wedi cynnal astudiaeth cam 2 WelTAG i benderfynu sut y bydd yr opsiynau arfaethedig yn helpu i wneud y cyffyrdd yn fwy diogel
Amserlen
Adroddiad WelTAG 1 wedi’i gyhoeddi: haf 2019
Adroddiad WelTAG 2 wedi’i gwblhau: hydref 2021
Datblygiad dylunio manwl: 2022
Camau nesaf
Byddwn yn cynnal cam 3 WelTAG ac yn cyhoeddi'r adroddiad.
Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu a ddylen ni fwrw ymlaen â'r opsiwn a ffefrir ai peidio.
Beth ydyn ni’n ei wneud
Hoffwn:
- wneud cyffordd 36 yn fwy diogel ac effeithlon i bob defnyddiwr
- ei gwneud hi’n haws i bobl groesi’r rhan hon o’r M4
- cynnwys mwy o ffyrdd i bobl feicio, defnyddio cadair olwyn neu gerdded ar hyd y rhan hon o’r ffordd.
Sut ydyn ni’n ymgynghori
Rydyn ni wedi bod yn ymgynghori â busnesau lleol a thirfeddianwyr yn yr ardal. Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda:
- Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- cynghorau cymuned
- gwasanaethau brys
- grwpiau buddiant eraill (fel Sustrans).
Byddwn yn gweithio gyda mwy o grwpiau i lunio’r cynlluniau manwl ar ôl i ni benderfynu ar ein hoff opsiwn.