Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Chwefror 2023.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae ymgynghoriad cyntaf y Comisiwn Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, Dweud eich Dweud: Have your Say, bellach wedi cau. Diolch i bob un o’r 2524 ohonoch wnaeth gyfrannu! Mi fydd nifer fwy o ffyrdd i chi gyfrannu eich barn ar sut dylai Cymru gael ei rhedeg, gan gynnwys gwefan ymgysylltu newydd yn dod yn fuan. Dilynwch @comiswn am y diweddaraf.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn estyn gwahoddiad i chi ymuno â sgwrs genedlaethol ynglŷn â’r ffordd y caiff Cymru ei rhedeg.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r Comisiwn yn gorff annibynnol sydd â’r dasg o ystyried opsiynau am sut y gallai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol. Hoffai’r Comisiwn glywed eich barn.