Cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr Di-dâl: 17 Chwefor 2021
Cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr Di-dâl 17 Chwefror 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Arwel Ellis Owen | Cadeirydd |
Julie Morgan |
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Kim Dolphin |
Cadeirydd – Rhwydwaith Gwella a Dysgu Swyddogion Gofalwyr - ALl Sir Fynwy |
Pennie Muir | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dd |
Angela Hughes |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Jon Day |
Gofal Cymdeithasol Cymru |
Claire Morgan |
Gofalwyr Cymru |
Simon Hatch | Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru |
Johanna Davies | Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg |
Amanda Phillips | Cyngor Bro Morgannwg |
Dianne Seddon | Prifysgol Bangor |
Jenny Oliver | Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
Junaid Iqbal | Lechyd Cyhoeddus Cymru |
Vanessa Webb |
Prifysgol Abertawe |
Kate Young |
Fforwm Cymru Gyfan |
Sean O’Neill | Plant yng Nghymru |
Rachel Lewis | Pennaeth Cangen Pobl Hŷn a Gofalwyr,
Swyddogion Llywodraeth Cymru |
Ben O'Halloran |
Cangen Pobl Hŷn a Gofalwyr, Swyddogion Llywodraeth Cymru |
Rhiannon Ivens |
Dirprwy Gyfarwyddwr Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol, Swyddogion Llywodraeth Cymru |
Ymddiheuriadau
Anna Bird | Bwrd d Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Valerie Billingham | Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn |
Ffion Johnstone | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalad |
Kathy Proudfoot | Dirprwy Gadeirydd - Rhwydwaith Gwella a Dysgu Swyddogion Gofalwyr, Cyngor Casnewydd |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a chofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod cywir a theg o’r safbwyntiau a fynegwyd.
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolchodd y Dirprwy Weinidog i’r aelodau am eu cyfraniadau i’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021. Gan fod y cynllun ar gael erbyn hyn, mae’n bwysig bod gan Grŵp Cynghori’r Gweinidog ddyfnder a chwmpas digonol i gyrraedd y targedau uchelgeisiol sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen. Mae’r grŵp hwn, ynghyd â Grŵp Ymgysylltu sydd wedi’i adnewyddu, yn sicrhau bod ystod eang o waith ymgysylltu’n digwydd â gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Nododd y Dirprwy Weinidog mai hwn fyddai cyfarfod olaf Arwel fel cadeirydd annibynnol y grŵp a diolchodd iddo am roi o’i amser a’i brofiad i’r grŵp yn ystod dwy flynedd heriol.
Yn dilyn cyfraniad y Dirprwy Weinidog, soniodd yr aelodau am y corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos sut y mae’r effaith ariannol negyddol ar ofalwyr di-dâl wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Mae angen cynyddu’r Lwfans Gofalwr er mwyn helpu i liniaru rhai o’r problemau ariannol hyn.
Ymatebodd y Dirprwy Weinidog gan ddweud nad Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r Lwfans Gofalwr ond ei bod yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU ynghylch y mater.
Yn ogystal â’r uchod, nododd cyrff y trydydd sector fod diffyg cyfathrebu rhwng awdurdodau lleol a gofalwyr di-dâl, yn enwedig ynghylch ailddechrau gwasanaethau cymorth. Mae Fforwm Cymru Gyfan yn dal i gael galwadau gan ofalwyr sy’n rhieni, nad ydynt yn gallu dychwelyd i’r gwaith am nad yw gwasanaethau cymorth wedi ailddechrau. Mae gofalwyr di-dâl yn ymwybodol o’r pwysau sydd ar ofal cymdeithasol ar hyn o bryd ac mae rhai ohonynt yn gyndyn o ofyn am help oherwydd nad ydynt am roi mwy o bwysau ar y system. Byddai’n ddefnyddiol annog awdurdodau lleol i gyfathrebu’n onest ynghylch beth y gall gofalwyr di-dâl ei ddisgwyl o safbwynt cymorth yn eu hardal dros y 6 mis nesaf.
Papur Opsiynau o ran Gofal Seibiant
Rhannwyd papur â’r aelodau ynghylch sut y gellir symud cymorth o ran gofal seibiant yn ei flaen yn ystod 2022-23. Gofynnwyd i’r aelodau ystyried y pedwar opsiwn ac amlygu’r opsiwn a fyddai’n gweithio orau yn eu barn nhw.
- Opsiwn 1 – dyrannu’r cyllid i gyd i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol
- Opsiwn 2 – cael Llywodraeth Cymru i weithredu fel corff cydlynu a bod y broses yn debyg i broses y Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.
- Opsiwn 3 – dyrannu’r cyllid i gyd i gorff trydydd sector er mwyn i’r corff hwnnw gydlynu’r gronfa. Byddai’r opsiwn hwn yn golygu galw am geisiadau i fod yn gorff cydlynu. Byddai’r corff trydydd sector a ddewiswyd yn cael y £3 miliwn i gyd er mwyn cydlynu’r prosiect. Manteision yr opsiwn hwn yw bod corff trydydd sector yn gallu ymgymryd â rôl nad oes gan Lywodraeth Cymru na’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol y capasiti i’w chyflawni efallai.
- Opsiwn 4 – dull gweithredu hybrid, gyda chorff trydydd sector yn mabwysiadu rôl gydlynu a Llywodraeth Cymru yn dyrannu’r rhan fwyaf o’r cyllid i awdurdodau lleol a/neu Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Mae papur 1 sydd ynghlwm yn rhoi mwy o fanylion am yr opsiynau.
Gwnaeth yr aelodau y pwyntiau canlynol.
Opsiwn 3
- Mae Opsiwn 3 yn broses sydd wedi’i rhoi ar brawf yn yr Alban. Mae angen ystyried y gwaith sy’n digwydd yng nghyswllt Respitality hefyd. Nid oes yn rhaid i awdurdodau lleol neu Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol fod yn llwyr gyfrifol am y broses hon, oherwydd gall y sector preifat chwarae rhan hefyd.
- Byddai Opsiwn 3 yn golygu bod rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio yn fwy clir.
Opsiwn 4
- O safbwynt Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, mae’n ddefnyddiol gallu gweld pethau o’r brig i lawr wrth greu strategaethau a rhaglenni. Fodd bynnag, gall mân wahaniaethau lleol gael eu colli weithiau. Mae’n anodd hefyd sicrhau cydraddoldeb ar draws y rhanbarth cyfan gyda dull gweithredu o’r brig i lawr. Byddai’n well o lawer cael cyrff cenedlaethol o’r trydydd sector yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, gan fod hynny’n troi’r model ar ei ben ac yn gwneud y broses yn un sy’n gweithredu o’r gwaelod i fyny.
- Fodd bynnag, awgrymwyd y gallai pwysleisio model mwy lleol ddigwydd ar draul sefydlu dull gweithredu cenedlaethol. Mae Opsiwn 4 yn creu’r posibilrwydd o broblemau cyfathrebu rhwng y gwahanol sefydliadau sy’n rhan o’r broses.
Cyfuniad o Opsiynau 3 a 4
- Awgrymodd rhai aelodau mai cyfuniad o opsiynau 3 a 4 fyddai’n gweithio orau efallai. O ddewis yr opsiwn hwn, byddai angen diffinio rolau awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn glir.
- Ni ddylai cael cynnig gofal seibiant fod yn loteri cod post sy’n seiliedig ar ddarparwr a gomisiynwyd a’i allu i ddarparu. A allai’r cynnig hwn o ran gofal seibiant roi i ofalwyr di-dâl gyllid i gael mynediad i’r gofal seibiant y mae arnynt ei angen, ar draws ffiniau rhwng siroedd neu wledydd?
Cam gweithredu: Bydd swyddogion yn drafftio papur ynghylch yr opsiwn mwyaf poblogaidd.
Trafodaeth ynghylch Cofrestr Gofalwyr
Pwysleisiodd y swyddogion mai dyma ddechrau’r drafodaeth ynghylch y mater hwn a gwnaethant ofyn a ddylid sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i symud y mater yn ei flaen.
Mae Gofalwyr Cymru yn galw am gael cofrestr gofalwyr di-dâl. Mae’r elusen yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol iawn, ac mae ganddi ddiddordeb mewn defnyddio cofnodion meddygfeydd meddygon teulu i ddechrau casglu’r data. Caiff y rhan fwyaf o ofalwyr di-dâl eu hadnabod mewn lleoliadau iechyd, felly gallai cofrestr sicrhau bod hynny’n digwydd yn gyson.
Bydd defnyddio meddygon teulu yn hollbwysig, ond bydd angen cynnwys ysgolion a fferyllfeydd hefyd. Efallai y gellid ystyried model gofal sylfaenol.
Mae’n bwysig nodi bod llawer o ofalwyr di-dâl yn cael eu hannog eisoes i gofrestru gyda’u meddyg teulu, ond bod rhai’n amheus ynghylch y ffaith bod eu henwau’n cael eu cadw ar gronfa ddata. Rhaid cael cyfathrebu clir ynghylch beth yn union y byddai cofrestr yn ei olygu i ofalwyr di-dâl ac at ba ddiben y byddai’n cael ei defnyddio. Mae angen nodi bod gofyn ystyried yn ofalus y broses ar gyfer tynnu enwau gofalwyr oddi ar y gofrestr pan fyddant wedi rhoi’r gorau i ofalu.
Mae swyddogion wedi cael sgyrsiau â’u cydweithwyr ac nid yw’r Gofrestr Anabledd wedi bod mor llwyddiannus ag a fwriadwyd. Y brif broblem yw nad yw pobl yn dymuno bod ar gofrestr.
Cytunodd yr aelodau ei bod yn hanfodol cael cyfathrebu clir, defnyddio’r iaith gywir a meithrin ymddiriedaeth ynghylch y gofrestr.
Cam gweithredu: Bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu i ystyried sut beth fyddai cofrestr ac a fyddai’n ychwanegu gwerth.
Diweddariad gan y Grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr
Mae’r Grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr wedi bod yn llwyddiannus dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Wrth symud ymlaen, byddai’n fuddiol i’r grŵp gael strwythur llai ffurfiol a bod yn agored i ymgysylltu ar raddfa ehangach. Mae cyllid wedi’i gytuno ar gyfer 2022-23, ac mae swyddogion yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddrafftio Fframwaith Ymgysylltu. Mae sgyrsiau’n dal i fynd rhagddynt ynghylch sut y gellir defnyddio’r fframwaith hwn i ymgysylltu â gofalwyr ifanc.
Y bwriad yw amrywio’r rhwydwaith â mwy o grwpiau ffocws a gweithgareddau allgymorth. Rhoddir ystyriaeth hefyd i’r modd y bydd y fframwaith hwn yn cyd-fynd â Grŵp Cynghori’r Gweinidog, gyda gofalwyr di-dâl yn aelodau o Grŵp Cynghori’r Gweinidog efallai ac aelodau’r grŵp yn mynychu cyfarfodydd y Fframwaith Ymgysylltu.
Cam gweithredu: Caiff y cynnig ar gyfer Fframwaith Ymgysylltu ei rannu yng nghyfarfod nesaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog.
Y camau nesaf o ran Grŵp Cynghori’r Gweinidog
Ni chafwyd unrhyw sylwadau gan aelodau Grŵp Cynghori’r Gweinidog ynghylch cylch gorchwyl y grŵp, felly tybir bod pawb yn cytuno ei fod yn dal yn addas i’w ddiben. Mae aelodaeth y grŵp hwn eisoes yn gryf, mae ganddo ystod dda o arbenigedd ac mae ganddo gynrychiolaeth dda o feysydd ac ardaloedd priodol.
Fodd bynnag, mae presenoldeb yn cael ei gofnodi a nodwyd bod angen cynyddu cynrychiolaeth o awdurdodau lleol.
Awgrymwyd y bydd angen cynrychiolaeth o faes addysg ar y grŵp wrth symud ymlaen. Mae’n bosibl y gellir sefydlu is-grŵp er mwyn gwneud cynnydd o ran blaenoriaeth rhif pedwar sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo gofalwyr di-dâl sydd mewn addysg a chyflogaeth.
Cam gweithredu: Bydd swyddogion yn drafftio cynnig ynghylch cael is-grŵp posibl, a fydd yn canolbwyntio ar flaenoriaeth rhif pedwar, a bydd yn anfon y cynnig at aelodau Grŵp Cynghori’r Gweinidog i gael sylwadau yn ei gylch.
Diweddariad ynghylch y Siarter Gofalwyr
Roedd yr aelodau’n teimlo bod y drafft yn cynrychioli safbwyntiau aelodau’r gweithgor yn dda.
Os oes cytundeb cyffredinol ymhlith aelodau Grŵp Cynghori’r Gweinidog ynghylch dogfen y siarter, y camau nesaf yw creu fersiwn gryno y gall pobl ifanc ei defnyddio. Bydd pob fersiwn yn cael ei dylunio er mwyn sicrhau ei bod yn ddeniadol ac yn hygyrch. Mae angen ysgrifennu’r fersiwn i bobl iau yn ofalus er mwyn i blant allu ei deall heb fod y sawl sy’n nes at fod yn oedolion yn cael eu dieithrio.
Cafodd rhai newidiadau i’r ddogfen eu hawgrymu wrth y swyddogion. Er enghraifft, dylid cryfhau’r geiriad ynghylch cyfrifoldeb awdurdod lleol i ddiwallu anghenion cymwys gofalwyr di-dâl. Dylid egluro’r hyn y mae’r siarter yn ei olygu i ofalwyr di-dâl. Dylai dogfen y siarter gynnwys rhestr o sefydliadau sy’n gallu helpu a chynorthwyo gofalwyr di-dâl. Efallai fod angen i’r adran sy’n ymdrin â’r Gymraeg yn y siarter a’r adran sy’n ymdrin â phob iaith arall gael eu gwahanu’n fwy clir oddi wrth ei gilydd. Mae’n bwysig cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Roedd rhai aelodau’n cytuno y dylid cael cafeat i gyd-fynd â’r siarter, sy’n nodi ei bod yn ddogfen fyw ac y gallai gael ei newid ymhellach.
Mae gan swyddogion gyllid ar gyfer y gwaith hwn er mwyn creu fersiynau o’r ddogfen yn Iaith Arwyddion Prydain, mewn Braille a chan ddefnyddio animeiddiadau o bosibl yn y dyfodol.
Cam gweithredu: Bydd swyddogion yn cymryd y sylwadau a gafwyd heddiw ac yn creu dogfen derfynol i’w hanfon i Grŵp Cynghori’r Gweinidog, Caiff hynny ei wneud erbyn diwedd mis Chwefror a bydd y gwaith dylunio’n cael ei gomisiynu ym mis Mawrth.
Cais gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr y De-ddwyrain i ymuno â Grŵp Cynghori’r Gweinidog
Mynegodd pob un o dri chynrychiolydd y trydydd sector eu pryderon ynghylch cymeradwyo’r cais hwn i ymuno â’r Grŵp. Roedd yr aelodau yn erbyn caniatáu i Ymddiriedolaeth Gofalwyr y De-ddwyrain ddod yn aelod o’r Grŵp, a hynny am y rhesymau canlynol:
- Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr y De-ddwyrain yn dod â’i chysylltiad â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr i ben ar 1 Ebrill er mwyn sefydlu sefydliad annibynnol newydd. Ni ddarparwyd unrhyw fanylion am nodau’r sefydliad newydd, cwmpas ei waith na’i genhadaeth strategol er mwyn gallu seilio’r penderfyniad arnynt.
- Roedd yr aelodau’n awyddus i gynnig aelodaeth i fudiadau cenedlaethol yn unig o’r trydydd sector. (Nid oes unrhyw fudiadau rhanbarthol o’r trydydd sector yn aelodau o’r grŵp ar hyn o bryd.) Gan mai mudiad rhanbarthol yw Ymddiriedolaeth Gofalwyr y De-ddwyrain, byddai’n agor cil y drws i fudiadau rhanbarthol eraill o’r trydydd sector wneud cais i ymuno, a allai olygu bod Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn mynd yn rhy fawr.
Roedd yr aelodau eraill a oedd yn bresennol yn cytuno â’r pwyntiau uchod. Gallai derbyn y cais hwn heb ystyriaeth briodol amharu ar y strwythur ac achosi anghydbwysedd.
Awgrymwyd y dylid cynghori’r ymgeisydd o Ymddiriedolaeth Gofalwyr y De-ddwyrain i ymuno â Chynghrair Gofalwyr Cymru yn gyntaf cyn cael ei dderbyn i Grŵp Cynghori’r Gweinidog.
Unrhyw fater arall
Mae lansio Corff Llais y Dinesydd, sy’n gorff newydd, yn gyfle delfrydol i gryfhau llais gofalwyr.
Mynychodd dros 120 o ofalwyr yr uwch-gynhadledd i ofalwyr, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Casglwyd adborth ynghylch pynciau megis rhyddhau cleifion o’r ysbyty, addasiadau i gartrefi a chydgynhyrchu. Bydd Gofalwyr Cymru yn cynhyrchu fideo ac adroddiad ar y wybodaeth a gasglwyd yn y digwyddiadau.
Diolchodd yr aelodau i Arwel am gadeirio’r grŵp dros y ddwy flynedd ddiwethaf a dywedodd Arwel mai braint oedd cael gwneud hynny a bod y gwaith y mae’r grŵp wedi’i wneud wedi bod yn bwysig tu hwnt i’r sector.