Mae Llywodraeth Cymru am benodi Dirprwy Gadeirydd a chwe Chomisiynydd i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC).
Mae'n dilyn penodi Dr David Clubb yn Gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 2021.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru CSCC i gynnal astudiaethau ynghylch heriau seilwaith mwyaf dybryd Cymru a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Yn ogystal â'r penodiadau, mae Cylch Gorchwyl y comisiwn wedi'i ddiweddaru fel y dylai holl drafodaethau, dadansoddiadau a chasgliadau'r Comisiwn ynghylch unrhyw brosiectau seilwaith ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae amserlen y seilwaith dan ystyriaeth hefyd wedi cynyddu o 5 i 30 mlynedd i 5 i 80 mlynedd i ystyried y ffaith y bydd oes llawer o'r seilwaith dan sylw yn rhychwantu llawer mwy na 30 mlynedd.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
“Rydym yn wynebu heriau enfawr wrth fynd i'r afael â'r newid hinsawdd ac rwyf am fireinio ffocws y comisiwn yn y maes hwnnw.
“Bydd y newidiadau i'r Cylch Gorchwyl yn sicrhau bod yr argyfyngau hinsawdd a natur yn flaenllaw yn nhrafodaethau'r Comisiwn ar brosiectau seilwaith sydd dan ystyriaeth.”
Ychwanegodd Dr David Clubb, Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru:
“Rwy'n edrych ymlaen at arwain Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i'r cyfnod newydd hwn.
“Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid inni ddechrau gweithio ar wella'r canlyniadau hirdymor ar gyfer seilwaith yng Nghymru.
“Rwy'n awyddus i annog ceisiadau gan bobl sy'n chwilfrydig am ffyrdd y gall seilwaith wasanaethu pobl, cymunedau, busnesau ac ecosystemau Cymru yn well.
“Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan amrywiaeth eang o ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol ledled Cymru.”