Bydd mwy na 57,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn derbyn taliad o £500 i gydnabod y ‘rôl ganolog’ y maent wedi’i chwarae yn ystod y pandemig.
Mae’r taliad yn rhan o fuddsoddiad o £29m mewn pobl gan Lywodraeth Cymru ac yn cydnabod y caledi ariannol ac emosiynol mae llawer wedi’i wynebu.
Bydd gofalwyr di-dâl sy’n derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth eleni yn gymwys ar gyfer y taliad.
Gofalwr di-dâl yw rhywun sy’n gofalu am bartner, perthynas neu ffrind sydd â salwch neu anabledd.
Telir Lwfans Gofalwr i bobl sy’n gofalu am o leiaf 35 awr yr wythnos, sy’n gofalu am rywun sy’n derbyn budd-daliadau penodol ac sy’n ennill dim mwy na £128 yr wythnos.
Bydd y taliad o fudd i filoedd o’r gofalwyr di-dâl mwyaf agored i niwed yng Nghymru, sy’n aml yn gofalu am yr hiraf ac ar yr incwm isaf.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:
Mae gofalwyr di-dâl wedi chwarae rôl ganolog drwy gydol y pandemig ac rydym yn cydnabod y caledi ariannol ac emosiynol a wynebwyd ganddynt.
Rwy’n gobeithio y bydd y taliad hwn o £500 o ryw gymorth iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Rydym yn hynod o falch o’n gofalwyr di-dâl yng Nghymru, y mae llawer ohonynt yn cael trafferth gwneud amser iddynt eu hunain oherwydd eu rôl gofalu, ac rydym yn gobeithio bydd y buddsoddiad hwn o £29 miliwn mewn pobl yn dangos cymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi'r hyn maen nhw’n ei wneud.
Rydym yn deall na fydd pob gofalwr di-dâl yn gymwys am y taliad hwn, gan nad yw llawer ohonynt yn derbyn Lwfans Gofalwr, a byddwn yn parhau i gefnogi gofalwyr o bob oed ym mhob ffordd y gallwn.
Bydd gofalwyr di-dâl yn gallu cyflwyno eu cais i awdurdodau lleol yn ddiweddarach eleni. Bydd manylion pellach ar sut a phryd i gofrestru ar gyfer y taliad ar gael yn fuan.
Daw lansiad y taliad ar ôl i arolwg o fwy na 1,500 o ofalwyr di-dâl ganfod bod bron i hanner wedi gorfod defnyddio eu cynilion personol a rhoi’r gorau i weithio neu astudio i ofalu, tra bu’n rhaid i fwy na hanner roi’r gorau i hobïau neu ddiddordebau personol oherwydd eu rôl gofalu.
Ynghyd ag argyfwng costau byw – a’r ffaith y bydd llawer o’r rheini sydd mewn rôl gofalwr di-dâl yn gofalu am unigolion ag anghenion cymhleth sydd angen cartrefi cynnes, offer meddygol arbenigol a bwydydd penodol – cydnabyddir y bydd gofalwyr di-dâl yn wynebu mwy o bwysau ariannol nag eraill.
Y gobaith yw y bydd taliad o £500 yn cyfrannu rhywfaint at leddfu’r pwysau hyn, yn ogystal â chydnabod gwerth eu rôl ofalu dros y flwyddyn ddiwethaf i system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Dywedodd Kate Young, Cadeirydd Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Chyfarwyddwr Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan:
Mae’r Gynghrair yn croesawu’r newyddion y bydd llawer o ofalwyr di-dâl ledled Cymru yn cael eu cefnogi gan y taliad hwn.
Mae’n gam cadarnhaol tuag at gydnabod y gofal a’r cymorth cyson y mae gofalwyr di-dâl bob amser wedi’u rhoi, ac y byddant yn parhau i’w rhoi, yn enwedig o ystyried yr heriau ychwanegol y mae cymaint o deuluoedd wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig.
Croesawodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, y newyddion:
Mae gofalwyr di-dâl wedi bod ar y rheng flaen drwy gydol y pandemig ac mae’r taliad hwn yn gydnabyddiaeth o’r oriau lawer o ofal y maent wedi’u rhoi ochr yn ochr ag ymdrechion y gweithlu cyflogedig.
Dyma’r cam cyntaf tuag at fynd i’r afael â rhai o’r pryderon rydym wedi’u clywed gan ofalwyr di-dâl ledled Cymru, ers cyn cyfnod y pandemig, am eu brwydrau dyddiol i gael dau ben llinyn ynghyd.
Dywedodd Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru:
Gofalwyr di-dâl yw trydydd piler hanfodol ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac fe wnaethant ysgwyddo llawer iawn o straen a chyfrifoldeb yn ystod y pandemig.
Mae’r taliad hwn o £500 yn gam cyntaf pwysig i gydnabod, mewn ffordd ymarferol, gyfraniad dyddiol gofalwyr i’n cymdeithas ac rydym yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am wneud y taliadau hyn yn uniongyrchol i ofalwyr.