Rhestr o Fuddiannau Preifat Perthnasol y Gweinidogion
Rhestr o fuddiannau preifat perthnasol y gweinidogion.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Gofyniad Cod y Gweinidogion
O dan delerau Cod y Gweinidogion, mae’n rhaid i Weinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro’n codi, neu y gellid ystyried yn rhesymol ei fod yn codi, rhwng eu sefyllfa fel Gweinidog a'u buddiannau preifat, yn ariannol neu fel arall.
Ar gael eu penodi i bob swydd newydd ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, rhaid i'r Gweinidogion roi rhestr ysgrifenedig gyflawn i'r Ysgrifennydd Parhaol o'r holl fuddiannau hynny y gellid ystyried eu bod yn arwain at wrthdaro. Yna bydd datganiadau unigol, a nodyn am unrhyw gamau a gymerwyd mewn perthynas â buddiannau unigol, yn cael eu pasio ymlaen at yr Ysgrifennydd Parhaol i ddarparu cyngor ynghylch unrhyw gamau pellach fel y bo'n briodol. Mae rhagor o wybodaeth am gategorïau’r buddiannau sy’n cael eu datgelu ar gael yn yr Atodiad.
Caiff datganiadau a ddarperir gan y Gweinidogion eu trin yn gyfrinachol. Mae hyn yn sicrhau bod modd iddynt ddatgelu eu buddiannau mor llawn â phosibl, hyd yn oed pan na fo materion yn berthnasol o reidrwydd.
Mae'r rhestr sydd wedi'i chyhoeddi yn cynnwys buddiannau gweinidogol perthnasol ar adeg cyhoeddi. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw ddatganiadau perthnasol gan Aelodau o’r Senedd. Pan fo Gweinidog wedi gwaredu buddiant perthnasol, neu wedi gwneud hynny cyn cymryd swydd Gweinidog, ni fydd yn cael ei gynnwys ar y Rhestr. Mae'r Rhestr yn nodi buddiannau a ddelir ar hyn o bryd gan Weinidogion, neu gan aelodau agos o'u teuluoedd sy’n uniongyrchol berthnasol i gyfrifioldebau'r Gweinidogion, neu y gellid ystyried yn rhesymol eu bod yn uniongyrchol berthnasol. Mae hefyd yn darparu manylion am elusennau y mae Gweinidogion yn ymddiriedolwyr neu'n noddwyr iddynt. Ar ben hynny, gall Gweinidogion gael cysylltiadau eraill ag elusennau neu sefydliadau nad ydynt yn rai cyhoeddus, er enghraifft, fel Aelodau’r Senedd ar gyfer etholaeth. Gall cysylltiadau o'r fath fod yn rhai hanesyddol, rhai sydd wedi dod i ben, neu efallai'n rhai lle nad yw'r Gweinidog ei hun yn cymryd rhan weithredol ynddynt.
Nid yw'r rhestr a gyhoeddir yn gofnod o holl fuddiannau neu drefniadau ariannol a ddelir gan Weinidog neu aelodau o'i deulu agos. Byddai hynny yn ymyrraeth na ellid ei gyfiawnhau ym materion preifat Gweinidogion ac aelodau agos o'u teuluoedd. Yn hytrach mae'n rhestr o unrhyw fuddiannau o'r fath sydd, neu y gellid yn rhesymol eu hystyried i fod, yn uniongyrchol berthnasol i ddyletswydd gyhoeddus y Gweinidog hwnnw. Mae'r holl fuddiannau sy'n cael eu datgan gan Weinidogion yn cael eu dal gan yr Ysgrifennydd Parhaol.
Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Buddiannau ariannol | Ymddiriedolaeth ddall / trefniant rheoli dall |
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undeb Unite Gwybodaeth am Nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Aelod | Amnesty International UK |
Aelod | Tŷ'r Arglwyddi (caniatâd i fod yn absennol) |
Aelod | Mudiad Ewropeaidd |
Aelod | Mudiad Llafur dros Ewrop |
Hyrwyddwr Ewrop | Menter yr Economi Llesiant, Sefydliad Iechyd y Byd |
Unrhyw fuddiant perthnasol arall | |
Priod – Partner wedi ymddeol mewn practis meddygon teulu sy’n derbyn rhent gan y GIG | |
Brawd yn Gyfarwyddwr Addysg yr Academi Frenhinol Peirianneg |
Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
(Ogwr)
Eiddo buddsoddi | Cydberchennog eiddo preswyl yn ardal Abertawe y mae incwm rhent yn deillio ohono |
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undebau GMB ac Unite Gwybodaeth am nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o’r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Noddwr | Brynawel Rehab |
Noddwr | Clwb Rygbi Maesteg |
Noddwr | Côr Meibion Maesteg Gleemen |
Noddwr | Côr Cymysg Morgannwg Ganol |
Noddwr | Fforwm Teuluoedd Mewn Profedigaeth y DU |
Noddwr | Sied Dynion Caerau |
Noddwr | Cymorth Dodrefn Cymunedol |
Llywydd | Band Arian Cwm Ogwr |
Llywydd | Côr Meibion Cwm Ogwr |
Llywydd | Cor Meibion Maesteg a’r Cylch |
Is-lywydd | Cymdeithas Operatig Amatur Maesteg |
Is-lywydd | Canolfan Y Bont i deuluoedd a phlant |
Is-lywydd | Clwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel |
Aelod | Sefydliad Bevan |
Aelod | Fabians |
Aelod | Y Blaid Gydweithredol |
Aelod Anrhydeddus | Cymdeithas Adfywio Cymunedol Cwm Ogwr |
Aelod Anrhydeddus | Clwb Rotari Maesteg |
Cyfaill | Cor Bro Ogwr |
Cydymaith Anrhydeddus | Cymdeithas Milfeddygon Prydain |
Cadeirydd | Grŵp yr Adolygiad o Lwybr Cenedlaethol yr Arfordir (ymddiswyddodd pan gafodd ei benodi) |
Cadeirydd | Y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru (ymddiswyddodd pan gafodd ei benodi) |
Is-lywydd | Ramblers Cymru (ymddiswyddodd pan gafodd ei benodi) |
Aelod | SERA UK (ymddiswyddodd pan gafodd ei benodi) |
Unrhyw fuddiant perthnasol arall | |
Aelod agos o’r teulu yn gyflogedig gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. | |
Aelod agos o’r teulu yn gyflogedig gan Grasshopper Communications. | |
Priod yn gyflogedig gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. |
Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
(Gorllewin Casnewydd)
Cyfranddaliadaeth | Aelod o’r gymdeithas a chyfranddaliwr cymunedol, nad yw’n gwneud elw, ar gyfer lleoliad cerddoriaeth fyw Corn Exchange yng Nghasnewydd. |
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undebau Unsain, Unite, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, ac Undebau Usdaw a Community. Gwybodaeth am nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o’r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Noddwr | Côr Ffilharmonig Casnewydd |
Cyd-lywydd | Clwb Athletau Harriers Casnewydd |
Llywydd | Gŵyl Werin Tŷ Tredegar |
Is-lywydd | Cyfeillion Pont Gludo Casnewydd |
Is-lywydd | Côr Meibion Dinas Casnewydd |
Aelod | Cyfeillion Tŷ Tredegar |
Aelod | Grŵp Llywio Cerflun ar gyfer Arglwyddes Rhondda |
Aelod | Y Blaid Gydweithredol |
Aelod | Ballet Cymru |
Aelod | Undeb Credyd Casnewydd Smart Money Cymru |
Aelod | Canolfan Gelfyddydau Cwtsh |
Aelod | Ymddiriedolaeth Natur Gwent |
Aelod | Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Aelod | Cymdeithas Gefeillio Casnewydd-Kutaisi |
Aelod | Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd |
Aelod | Archif Menywod Cymru |
Aelod | Adolygiad Celfyddydau Cymru |
Ysgrifennydd | Fforwm Menywod Casnewydd |
Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
(Gorllewin Caerdydd)
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undeb Unite ac Unsain Gwybodaeth am Nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Aelod | Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro |
Aelod | Action in Caerau and Ely |
Aelod | Clwb Criced Morgannwg |
Aelod | Cymdeithas Rhandiroedd Parhaol Pontcanna |
Aelod | Ymgyrch Tir Llafur |
Aelod | Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd |
Aelod Cefnogol | Llafur LGBT |
Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
(Gŵyr)
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undeb Unite ac Unsain Gwybodaeth am Nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Hyrwyddwr | Internet Watch Foundation |
Noddwr | Band Tref Llwchwr |
Aelod | Clwb Rygbi Penclawdd |
Cyd-lywydd Pwyllgor yr Ŵyl | Gŵyl Werin Gŵyr |
Is-lywydd Anrhydeddus | Cymdeithas Gefeillio Mwmbwls |
Llywydd | Clybiau Dydd Dementia Forget-Me Not |
Aelod | Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Unrhyw fuddiant perthnasol arall | |
Chwaer yn cael ei chyflogi mewn swyddfa etholaethol |
Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
(Bro Morgannwg)
Aelodaeth o Undeb Llafur | Unison Gwybodaeth am nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o’r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Ymddiriedolwr | Fforwm Ieuenctid y Fro |
Llywydd Anrhydeddus | Ymatebwyr Cyntaf y Barri |
Ymddiriedolwr | Ocean Water Sports Trust, y Barri |
Aelod | Soroptimyddion Rhyngwladol (Y Barri a'r Cylch) |
Priod | Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr - Gŵyl Gerddoriaeth Bro Morgannwg |
Priod | Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr - Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro |
Aelod | Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro |
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(Castell-nedd)
Eiddo buddsoddi | Cyd-berchennog eiddo preswyl ar rent yn Abertawe |
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undeb Unite, GMB ac Unsain Gwybodaeth am nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Aelod | Fforwm Economaidd Ardal Castell-nedd |
Aelod | CAMRA |
Is-lywydd Anrhydeddus | Cymdeithas Hynafiaethwyr Castellnedd |
Noddwr | Canolfan Deulu Building Blocks Resolfen |
Noddwr | YMCA Castell-nedd |
Aelod | Undeb Credyd Castell-nedd Port Talbot (hefyd yn cael ei adnabod fel Undeb Credyd Celtic) |
Aelod | Sefydliad Bevan |
Llywydd Anrhydeddus | Y Lleng Brydeinig Pontardawe |
Noddwr Anrhydeddus | Little Theatre Castell-nedd |
Noddwr | Llafur LGBT |
Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
(Torfaen)
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undeb Unite Gwybodaeth am nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Noddwr | Grŵp Cyfleoedd Torfaen |
Noddwr Anrhydeddus | Partneriaeth Garnsychan |
Is-lywydd Ymddiriedolaeth | Amgueddfa Torfaen |
Aelod | Y Blaid Gydweithredol |
Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
(De Clwyd)
Eiddo buddsoddi | Eiddo yn Ffrainc – yn cael ei osod ar rhent o bryd i'w gilydd. |
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undeb Unite Gwybodaeth am nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o’r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Is-lywydd | Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen |
Aelod | Y Stiwt, Rhos |
Aelodaeth er Anrhydedd | Côr Meibion Rhos |
Aelod | Clwb Golff Llangollen |
Aelod | Campfa Canolfan Hamdden yr Wyddgrug |
Aelod | Campfa Canolfan Hamdden Plas Madoc |
Aelod | Sŵ Caer |
Unrhyw fuddiant perthnasol arall | |
Brawd yn gyflogedig gan Lywodraeth Cymru. |
Dawn Bowden, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
(Merthyr Tudful a Rhymni)
Aelodaeth o Undeb Llafur | Unsain Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Perchennog Fan | Clwb Pêl-droed Tref Merthyr |
Is-lywydd | Cymdeithas Bysgota Merthyr |
Is-lywydd | Côr Meibion Ynysowen |
Noddwr | Grŵp Cymorth Osteoporosis Ardal Merthyr Tudful |
Noddwr | St David’s Baby Bank (Ardal Weinidogaeth Merthyr Tudful) |
Llywydd Anrhydeddus | Clwb Rygbi Phoenix Treharris |
Unrhyw fuddiant perthnasol arall | |
Priod yn gyflogedig mewn swyddfa etholaethol |
Vikki Howells, Minister for Further and Higher Education
(Cwm Cynon)
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undeb GMB a’r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol Gwybodaeth am nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o’r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Noddwr | Cymdeithas Gorawl Aberpennar a’r Cylch |
Llywydd | Friends R Us |
Is-lywydd | Côr Meibion Cwmbach |
Aelod | Y Blaid Gydweithredol |
Aelod | Sefydliad Bevan |
Aelod | Cymdeithas Hanes Cwm Cynon |
Aelod | Amgueddfa Cwm Cynon |
Unrhyw fuddiant perthnasol arall | |
Hefin David AS, Aelod o’r Senedd dros Gaerffili, yn bartner i’r Gweinidog. | |
Partner – Cymrawd yr Academi Addysg Uwch a Llywodraethwr Ysgol Gyfun Heolddu. |
Julie James, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
(Gorllewin Abertawe)
Swyddi cyfarwyddwr | Priod yn Gyfarwyddwr Flattout Design Ltd (dylunio peirianneg electronig) |
Aelodaeth o Undeb Llafur | Unsain Gwybodaeth am nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Aelod | Gerddi Aberglasne |
Aelod | Amnesty International |
Aelod | Greenpeace |
Aelod | Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) |
Aelod | Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) |
Aelod | Coed Cadw |
Aelod | Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) |
Aelod | Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Aelod | Y Blaid Gydweithredol |
Unrhyw fuddiant perthnasol arall | |
Mab yn cael ei gyflogi mewn swyddfa etholaethol |
Sarah Murphy, Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
(Pen-y-bont ar Ogwr)
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undebau Unite, Unsain, GMB, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, Undebau Plaid Gydweithredol Cymru a’r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol Gwybodaeth am nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Is-lywydd | Côr Meibion Porthcawl |
Aelod | Undeb Credyd Lifesavers Pen-y-bont ar Ogwr |
Aelod | Coed Cadw |
Aelod | Sefydliad Bevan |
Aelod | Clwb Rotari Pen-y-bont ar Ogwr |
Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
(Alun a Glannau Dyfrdwy)
Swyddi Cyfarwyddwr | Cyfarwyddwr Camlas, cwmni materion cyhoeddus, yn bartner i’r Gweinidog. |
Cyfranddaliadaeth | Cyfranddaliwr partner yn Camlas, cwmni materion cyhoeddus. |
Aelodaeth o Undeb Llafur | Undebau Unite a Community Gwybodaeth am nawdd ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o’r Senedd |
Cysylltiadau â sefydliadau | |
Aelod Anrhydeddus | Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig – Shotton a Glannau Dyfrdwy |
Llysgennad Clwb | Clwb Pêl-droed Cei Connah |
Aelod Anrhydeddus | Sefydliad Tafarnwyr Prydain |
Atodiad: Categorïau'r Buddiannau sy'n cael eu datgelu
Ar gael eu penodi, gofynnir i Weinidogion nodi eu buddiannau perthnasol mewn nifer o gategorïau.
1. Buddiannau ariannol – Mae'r Rhestr yn cynnwys buddiannau uniongyrchol berthnasol a ddelir gan Weinidog. Nid yw felly yn rhestr o'r holl fuddiannau ariannol gan gynnwys pob buddsoddiad neu fenthyciad a ddelir gan Weinidog. Mae'n nodi pan fo buddiannau ariannol yn cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth ddall neu drefniant rheoli dall tebyg. Mae ymddiriedolaethau dall a threfniadau rheoli dall yn ddulliau hirdymor ar gyfer diogelu Gweinidogion wrth reoli eu buddiannau. Maent yn sicrhau nad yw Gweinidogion yn ymwneud â phenderfyniadau ynghylch rheoli, caffael na gwaredu eitemau yn y trefniant, ac nad oes ganddynt wybodaeth fyw am gynnwys trefniadau o’r fath.
2. Cyfarwyddiaethau a chyfranddaliadau – Ni restrir cyfranddaliadau yr ystyrir eu bod de minimus o ran eu natur. Er na fyddai Gweinidogion fel arfer yn cadw cyfarwyddiaethau pan fyddant yn eu swyddi, o dan rai amgylchiadau penodol gall fod yn dderbyniol i Weinidog gadw cyfarwyddiaeth, er enghraifft, mewn cysylltiad â rheoli eiddo preswyl neu fenter deuluol, yn amodol ar gymryd camau penodol er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro.
3. Partneriaethau neu fuddiannau busnes eraill.
4. Eiddo buddsoddi – Yn unol â’r Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd, nid yw eiddo y mae Gweinidogion yn berchnogion arno a/neu yn byw ynddo at eu defnydd eu hunain yn cael ei gynnwys ar y Rhestr.
5. Unrhyw nawdd gan Undeb Llafur neu aelodaeth ohono (nawdd fel y'i datganwyd yn eu datganiad Aelod o'r Senedd).
6. Unrhyw Benodiadau Cyhoeddus a ddelir – caiff y rhan fwyaf o benodiadau cyhoeddus eu hildio pan gaiff rhywun ei benodi i swydd Gweinidog. Pan gynigir, fel eithriad, y dylid cadw penodiad o’r fath, disgwylir y bydd Gweinidogion yn gofyn am gyngor eu Hysgrifennydd Parhaol.
7. Cysylltiadau â sefydliadau gan gynnwys elusennau, sefydliadau nid-er-elw, sefydliadau cymunedol ac ati. Ar ben y cysylltiadau a restrir, mae’n bosibl y bydd gan weinidogion gysylltiadau eraill ag elusennau neu sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau cyhoeddus, nad ydynt yn berthnasol i’w buddiannau Gweinidogol, er enghraifft, fel Aelodau etholaethau. Gall cysylltiadau o’r fath fod yn hanesyddol neu wedi dod i ben, neu efallai nad yw’r Gweinidog yn cymryd rhan weithgar ynddynt mwyach.
8. Unrhyw fuddiannau perthnasol eraill gan gynnwys buddiannau perthnasol aelod agos o’r teulu. Gall fod buddiannau gan aelod agos o deulu Gweinidog yr ystyrir eu bod yn arwain at wrthdaro â’i gyfrifoldebau fel Gweinidog, ond mae hefyd yn bwysig cofio hawl Gweinidogion i rywfaint o breifatrwydd ynghylch eu materion. Felly, nid yw buddiannau nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol neu nad ydynt, o ystyried y mater, yn arwain at wrthdaro ond a all arwain at sylw gan y cyhoedd, o fewn cwmpas y Rhestr. Pennir yr hyn a olygir wrth deulu agos fesul achos unigol. Ni ellir disgwyl y bydd Gweinidogion yn gwybod manylion materion pob person sy’n perthyn iddynt, ond pan fônt mewn cysylltiad agos a pharhaus â’r person o dan sylw, dylent gymryd camau rhesymol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u cyfrifoldebau a nodir yng Nghod y Gweinidogion.
9. At hynny, gofynnir i Weinidogion gadarnhau nad oes unrhyw anghydfodau byw ynghylch eu materion trethi personol.