Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Ar 10 Chwefror, cyhoeddais y byddwn yn sefydlu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, dan arweiniad yr Arglwydd Burns, a fydd yn gyfrifol am fabwysiadu dull gweithredu sy'n cael ei arwain gan dystiolaeth i ddatblygu argymhellion ar gyfer atebion trafnidiaeth integredig, aml-ddull.
Bydd y Comisiwn yn adeiladu ar fodel llwyddiannus Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru a gwaith Metro Gogledd Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu argymhellion i'n galluogi i adeiladu cysylltiadau trafnidiaeth mwy effeithlon o ansawdd uchel ar draws y Gogledd ac i mewn i’r Gogledd.
Rwy'n falch o gyhoeddi bod y broses o sefydlu'r Comisiwn bellach wedi'i chwblhau.
Penodwyd chwe Chomisiynydd ochr yn ochr â'r Arglwydd Burns fel Cadeirydd. Bydd pob un yn dod ag amrywiaeth eang o brofiad, gwybodaeth ac arbenigedd i waith y Comisiwn.
Dyma’r Comisiynwyr:
- Yr Athro John Parkin - Athro Peirianneg Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Drafnidiaeth a Chymdeithas (CTS).
- Ashley Rogers - Cyfarwyddwr Masnachol Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Mersi a Dyfrdwy (NWMD).
- Dyfed Edwards - Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.
- Dr Georgina Santos - Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac economegydd sydd â diddordeb mewn economeg amgylcheddol a thrafnidiaeth a pholisi cyhoeddus.
- Sue Flack - Cyn Gyfarwyddwr Cynllunio a Thrafnidiaeth Cyngor Dinas Nottingham, sydd bellach yn ymgynghorydd trafnidiaeth annibynnol sy'n arbenigo mewn integreiddio cynllunio a thrafnidiaeth.
- Stephen Joseph OBE - Cynghorydd a chyn Gyfarwyddwr yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well.
Bydd y Comisiwn yn cael ei gefnogi gan Ysgrifenyddiaeth Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru. O’r ysgrifenyddiaeth hon, rwyf wedi penodi Aelodau Ymgynghorol i'r Comisiwn, gan ystyried eu harbenigedd penodol, sef:
- Glyn Evans - Arweinydd Teithio Llesol - Gogledd Cymru, Trafnidiaeth Cymru.
- Ruth Wojtan - Rheolwr Prosiect Datblygu Strategol Metro Gogledd Cymru
Rwyf yn dal wedi ymrwymo i fabwysiadu dull cynhwysol a chydweithredol o ddod o hyd i atebion arloesol, fforddiadwy a chynaliadwy i gyflawni ein nodau datgarboneiddio a newid dulliau teithio, a bydd y Comisiwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gyflawni'r uchelgais hwnnw.
Edrychaf ymlaen at gael adroddiad y Comisiwn y flwyddyn nesaf, ochr yn ochr â diweddariadau rheolaidd ar gynnydd.