Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ail o dri cham y gwerthusiad yn adolygu'r modd y cyflawnir y rhaglen a’r canlyniadau hyd yma.

Nod y rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant gan Lywodraeth Cymru yw gweithio gyda sefydliadau i gefnogi dinasyddion a staff i fod yn ddigidol hyderus, gan ganolbwyntio ar allu rheoli a chael mynediad at wasanaethau iechyd hanfodol.

Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal mewn tri cham allweddol sy'n cynnwys yr ail adroddiad hwn, Gwerthusiad Interim o'r Broses a'r Canlyniadau. 

Prif nodau’r cam hwn yn y gwerthusiad yw:

  • adolygu a chrynhoi'r dystiolaeth bresennol ynghylch y berthynas rhwng cynhwysiant digidol ac iechyd
  • adolygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y ffordd y cyflwynwyd y rhaglen
  • asesu i ba raddau y mae nodau'r rhaglen wedi'u cyflawni a'r targedau wedi'u cyrraedd
  • darparu tystiolaeth o ganlyniadau'r rhaglen i unigolion a'r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio

Mae chwech thema allweddol i ganfyddiadau'r cam hwn:

  1. Rhesymeg y rhaglen.
  2. Y cynydd a wnaed gan y rhaglen.
  3. Y cynnydd a wnaed gan Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru
  4. Ymgysylltu â sefydliadau partner
  5. Profiad sefydliadau a gefnogir.
  6. Blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol

Mae'r gwerthusiad yn cynnig naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth gyflawni'r rhaglen.

Cyswllt

Siân Williams

Rhif ffôn: 0300 025 3991

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.