Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £4 miliwn dros y flwyddyn nesaf i helpu busnesau o Gymru i ddod o hyd i gyfleoedd allforio newydd mewn marchnadoedd byd-eang, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.
- buddsoddiad o £4 miliwn mewn rhaglenni i greu allforwyr newydd ac i helpu busnesau sy’n allforio eisoes i dyfu ac ehangu i farchnadoedd newydd dramor.
- cyhoeddi rhaglen newydd o ddigwyddiadau rhyngwladol, gan gynnwys teithiau masnach i Ogledd America ac America Ladin, y Dwyrain Canol, Affrica, Asia, Awstralasia ac Ewrop.
Wrth siarad heddiw yng nghynhadledd Archwilio Allforio Cymru yng Nghaerdydd, mae'r Gweinidog yn datgelu rhaglen uchelgeisiol o gymorth allforio, gan gynnwys cyfres o deithiau masnach rhyngwladol, a fydd ar gael dros y flwyddyn nesaf i helpu busnesau o Gymru i ddod o hyd i gyfleoedd newydd mewn marchnadoedd
byd-eang, gan helpu i ddiogelu a chreu swyddi newydd yma yng Nghymru.
Yn ôl y data diweddaraf, allforiodd cwmnïau o Gymru gwerth £14.3 biliwn o nwyddau yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2021. Ar gyfer trydydd chwarter 2021, gwelwyd cynnydd o 4% yn yr allforion o Gymru i'r UE, a chynnydd o 27% yn yr allforion i farchnadoedd y tu allan i'r UE (o gymharu â'r chwarter blaenorol), tra bo’r allforion ar gyfer y DU gyfan wedi gostwng yn ystod yr un cyfnod.
Yn ei Strategaeth Ryngwladol, mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu ymrwymiad i gefnogi twf yr economi drwy sicrhau hyd yn oed yn fwy o gynnydd yn yr allforion o Gymru.
Er mwyn gwireddu'r uchelgais hwnnw, lansiodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu newydd ar Allforio ar gyfer Cymru ym mis Rhagfyr 2020. Mae’r Cynllun hwnnw’n amlinellu mathau amrywiol o gymorth sydd â’r nod o helpu allforwyr o Gymru i adfer, i ailgodi ac i ail-greu yn y tymor agos ar ôl pandemig COVID-19 ac yn sgil yr effaith a welwyd ar ôl i’r DU adael yr UE; mae’r Cynllun hefyd am ysgogi twf mewn allforion o Gymru yn y tymor hwy.
Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn golygu y bydd modd parhau i ddarparu ystod uchelgeisiol a chynhwysfawr o raglenni datblygu allforio yn ystod 2022/23, gan gynnwys:
- cyflwyno Cam 2 y Rhaglen Allforwyr Newydd, gan ddechrau ym mis Ebrill. Nod y Rhaglen yw troi busnesau sy’n allforio’n achlysurol neu fusnesau nad ydynt yn allforio o gwbl yn allforwyr newydd a chynaliadwy;
- datblygu’r Clystyrau Allforio sydd newydd eu sefydlu, gan ganolbwyntio ar sectorau allweddol er mwyn annog cwmnïau i gydweithio er mwyn goresgyn rhwystrau rhag allforio; a
- darparu rhaglen gynhwysfawr o Ddigwyddiadau Masnach Dramor a fydd yn rhoi cymorth i fusnesau ymweld â marchnadoedd allforio allweddol a chymryd rhan mewn arddangosfeydd masnach dramor i arddangos eu nwyddau a'u gwasanaethau ar lwyfan byd-eang. Yn 2022/23, bydd y rhaglen yn canolbwyntio'n gryf ar y farchnad allforio hanfodol yn Ewrop, yn ogystal â gweithgareddau yng Ngogledd America, America Ladin, y Dwyrain Canol, Asia, Awstralasia ac Affrica.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i helpu busnesau Cymru i dyfu, gan eu helpu i greu swyddi newydd yn nes adref a rhoi hwb i economi Cymru.
"Mae allforio yn ffordd wych o wneud hynny, a dyna pam rydyn ni am annog rhagor o fusnesau o Gymru i allforio’u nwyddau a'u gwasanaethau’n rhyngwladol.
"Bydd y rhaglen gynhwysfawr a phellgyrhaeddol o gymorth allforio dw i’n ei chyhoeddi heddiw ar gyfer 2022/23 yn ein helpu i wireddu'r ymrwymiadau a wnaed gennym yn ein Cynllun Gweithredu ar Allforio ar gyfer Cymru, drwy gefnogi twf ein heconomi drwy gynyddu allforion o Gymru ’nawr ac yn y tymor hwy.
"Mae gennym gynifer o gynhyrchion a gwasanaethau unigryw a arloesol yma yng Nghymru. Rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i helpu busnesau i arddangos ar lwyfan byd-eang er mwyn datblygu cyfleoedd masnachu rhyngwladol a chreu proffil uwch i ddiwydiant Cymru yn rhyngwladol.