Canllawiau lliniaru COVID-19 ar gyfer maes Addysg Gychwynnol i Athrawon Mawrth 2022
Llythyr at benaethiaid Partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon ynghylch blwyddyn academaidd 2021 i 2022 a 2022 i 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Annwyl Bennaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon,
Byddwch eisoes yn ymwybodol o'r canllawiau presennol sydd ar gael ichi, a roddwyd ar waith dros dro er mwyn eich helpu i leihau effeithiau'r pandemig cymaint â phosibl ar eich Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon a'ch Athrawon dan Hyfforddiant, gan gynnwys ymgeiswyr.
Yn unol â'r trafodaethau cydweithredol ac adeiladol a gynhaliwyd gennym, rydym wedi penderfynu y bydd y canllawiau hyn yn parhau ar waith ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol (blwyddyn academaidd 2021/22) mewn perthynas â'r athrawon dan hyfforddiant hynny sy'n astudio gyda chi ar hyn o bryd. O ran eich cylch recriwtio ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23, bydd y canllawiau sy'n ymwneud â'ch gweithgarwch recriwtio a'ch gofynion derbyn yn parhau ar waith hefyd.
O fis Medi 2022 ymlaen, y disgwyl yw y byddwn yn dychwelyd at y gofynion a nodir yn y Meini Prawf ar gyfer Achredu Rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru. Bydd hyn yn effeithio ar athrawon dan hyfforddiant sy'n dechrau rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon ym mis Medi 2022 ac ymgeiswyr sy'n mynd drwy eich cylch recriwtio er mwyn dechrau ym mis Medi 2023. Gwyddom fod y pandemig yn parhau, a byddwn yn dal i weithio'n agos gyda chi er mwyn gwneud yn siŵr bod modd ichi ddarparu addysg gychwynnol o ansawdd uchel i ein hathrawon dan hyfforddiant ledled Cymru. Gallai hyn olygu parhau â'r trefniadau dros dro presennol (neu eu diwygio ymhellach) mewn ymateb i'r sefyllfa iechyd sy’n parhau yng Nghymru.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch eto i chi, eich staff ymroddedig a'ch myfyrwyr am eich ymrwymiad a'ch dyfalbarhad dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn gywir,
Max White
Pennaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon
Llywodraeth Cymru