Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y pecyn cymorth statudol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (y Cyngor) o dan adran 28 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Ym mis Mehefin 2019, cytunwyd y byddai pecyn cymorth statudol yn cael ei ddarparu i’r Cyngor, ar ôl cais gan yr Arweinydd ar y pryd, ac mewn ymateb i Lythyr Archwilio Blynyddol pryderus gan Archwilio Cymru i’r Cyngor ym mis Mai 2019.
Cafodd y pecyn cymorth statudol – a oedd yn cynnwys Bwrdd Gwella a Sicrwydd statudol, penodiad cynghorwyr allanol tymor byr ar gyfer meysydd penodol a chymorth a hyfforddiant i aelodau a swyddogion – ei ddatblygu a’i deilwra’n benodol i helpu’r Cyngor i ymateb i’r risgiau a’r heriau a nodwyd gan Archwilio Cymru. Ei ddiben cyffredinol oedd sicrhau y gallai’r Cyngor gyflawni ei uchelgeisiau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da i bobl Merthyr Tudful ac roedd yn canolbwyntio ar gryfhau gallu’r Cyngor ei hun i wella a thrawsnewid. Cytunwyd y dylid cyflwyno’r pecyn cymorth statudol yn raddol a’i adolygu’n rheolaidd er mwyn rhoi sicrwydd bod y cymorth a ddarparwyd yn dal i fod yn addas i’w ddiben ac yn parhau i ychwanegu gwerth at daith y Cyngor tuag at welliant.
Ym mis Hydref 2021, yn sgil y cynnydd a oedd yn cael ei wneud gan y Cyngor, cytunais i gyfnod pontio terfynol o gymorth cyn i’r cymorth statudol ddod i ben ac i’r Cyngor symud i drefniadau a arweinir yn lleol ar gyfer goruchwylio gwelliant.
Cytunwyd ar y cyfnod pontio heb ddyddiad terfyn pendant, oherwydd bod hynny’n ddibynnol ar gynnydd y Cyngor yn erbyn fframwaith cytunedig o brofion allweddol a ddatblygwyd i roi sicrwydd imi a’r Cyngor nad oedd angen cymorth statudol ar Gyngor Bwrdeistrefol Sirol Merthyr Tudful mwyach.
Daethpwyd â darpariaeth cynghorwyr allanol mewn perthynas ag Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol i ben ym mis Hydref, a rhoddodd y Cyngor ei drefniadau ei hun ar waith gan sicrhau capasiti a gallu ychwanegol yn y meysydd hyn wrth symud ymlaen. Cytunais y byddai’r Bwrdd Gwella a Sicrwydd yn parhau mewn grym hyd nes y gellid fy sicrhau bod pob prawf allweddol cytunedig wedi’i fodloni (neu fod cynlluniau digonol ar waith a chynnydd yn cael ei wneud) a bod trefniadau llywodraethu cadarn a arweinir yn lleol wedi’u sefydlu.
Fis diwethaf, ceisiais farn ffurfiol gan Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn ar sefyllfa bresennol y Cyngor a’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma yn ogystal â chan y Tîm Craidd a gafodd ei benodi i’r Bwrdd Gwella a Sicrwydd. Ceisiais ddiweddariad hefyd gan y Cyngor ei hun ar y cynnydd sydd wedi’i wneud a’r cynlluniau ar gyfer trefniadau llywodraethu lleol i sicrhau y gellir cynnal gwelliant ar ôl i’r cymorth statudol sy’n weddill ddod i ben.
Er fod rhagor o waith i’w wneud, fe’m calonogwyd gan yr ymateb a gefais gan y Rheoleiddwyr, a oedd yn gydnaws â’r farn a fynegwyd gan Dîm Craidd y Bwrdd Gwella a Sicrwydd a’r Cyngor ei hun. Roeddwn yn croesawu’r gydnabyddiaeth gan bawb o’r cynnydd sydd wedi’i wneud gan y Cyngor ers sefydlu’r pecyn cymorth statudol yn 2019. Golyga hyn, ar y cyd â’i sefyllfa ariannol well a threfniadau llywodraethu a rheoli perfformiad cryfach, fod y sefydliad bellach mewn sefyllfa well o lawer i ysgogi ei welliant ei hun. Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi bod yn falch o gefnogi’r gwaith hwn drwy’r setliadau cyllid rydym wedi gweithio’n galed i’w darparu i lywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf.
Ar y sail hon, rwyf wedi cytuno y bydd gweddill elfennau’r pecyn cymorth statudol yn dod i ben yn ffurfiol ar 31 Mawrth. Golyga hyn mai cyfarfod y Bwrdd Gwella a Sicrwydd a gynhaliwyd fore heddiw (dydd Mercher 16 Mawrth) oedd ei olaf.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn nodi diwedd taith y Cyngor tuag at welliant. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod mwy i’w wneud (yn enwedig o ran craffu, ailgynllunio a chryfhau ei weithlu a gweithio ar gynlluniau i fynd i’r afael â’i gynaliadwyedd ariannol yn y tymor hwy) ac mae wedi rhoi ei drefniadau ei hun ar waith i barhau i ysgogi’r gwelliant hwnnw. Mae’n bryd i gyfnod nesaf y gwaith gwella hwnnw ddechrau.
Bydd y Cyngor yn cael cymorth cyffredinol ac wedi’i dargedu a arweinir gan y sector i wneud hyn drwy Raglen Cymorth i Wella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i barhau i gael mynediad at arbenigedd a chyngor allanol i helpu i fynd i’r afael ag unrhyw heriau sy’n weddill, ac i gefnogi’r gwaith o gynnwys y trefniadau llywodraethu a arweinir yn lleol yn y gwaith o redeg y sefydliad o ddydd i ddydd.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r Cyngor, y Bwrdd Gwella a Sicrwydd a’r cynghorwyr allanol am y gwaith sylweddol y maent wedi’i wneud ers 2019. Mae dod â’r cymorth statudol ffurfiol i ben yn garreg filltir allweddol yn nhaith y Cyngor tuag at welliant.