Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn cael ei ehangu i 2,500 mwy o blant o dan bedair oed fel rhan o'r cam cyntaf yn y gwaith o ehangu gofal plant o ansawdd uchel i bob plentyn dwy oed yng Nghymru.
Mae ehangu gofal plant i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn un o'r ymrwymiadau a wnaed yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Wrth ymweld heddiw â Hwb Canolfan Gymunedol Ringland yng Nghasnewydd, sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
Rwy wedi clywed gan rieni a gofalwyr am yr effaith gadarnhaol y mae Dechrau'n Deg wedi ei chael ar eu teuluoedd. Rydyn ni wedi ymrwymo i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar, ac mae'r rhaglen wych hon yn cynnig y ffordd orau o wneud hyn.
Rydyn ni'n gwybod bod plant sy'n mynd i leoliadau'r blynyddoedd cynnar sydd o ansawdd uchel yn cael budd o dreulio amser mewn amgylchedd hapus a magwrus gyda'u cyfoedion, a'u bod wedi'u paratoi yn well ar gyfer dechrau yn yr ysgol gynradd o ganlyniad i hynny.
Mae hwn yn fenter uchelgeisiol, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau llawer o deuluoedd yng Nghymru ac yn ein helpu i gyrraedd ein nod o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Dywedodd yr Aelod Dynodedig Siân Gwenllian:
Dyma'r cam cyntaf tuag at wireddu ein huchelgais o ddarparu addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant i bob plentyn yng Nghymru.
Bydd gofal plant sydd ar gael i bawb yn gwneud gwahaniaeth, gan roi budd i blant a theuluoedd ym mhob cwr o'r wlad, a hwb hollbwysig i'n cymunedau. Dyma'r ffordd iawn o gefnogi ein plant.
Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad ar y cyd i ehangu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg. Rwy'n edrych ymlaen at wireddu hyn dros y tair blynedd nesaf.
O fis Medi ymlaen, caiff y rhaglen Dechrau'n Deg ei hehangu i gynnwys hyd at 2,500 mwy o blant o adeg geni hyd at bedair oed drwy estyn ardaloedd targed y rhaglen ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
Bydd modd i bob plentyn o dan bedair oed sy'n bwy yn yr ardaloedd hyn fanteisio ar wasanaethau Dechrau'n Deg, gan gynnwys gofal plant i blant dwy a thair oed. Bydd timau Dechrau'n Deg yn rhoi gwybod am hyn i deuluoedd sy'n gymwys i fanteisio ar y rhaglen erbyn yr haf.
Ar ôl i'r cynllun Dechrau'n Deg gael ei roi ar waith yn llawn, bydd pob teulu yng Nghymru sydd â phlant rhwng dwy a thair oed yn gymwys i gael 12.5 awr o ofal plant o ansawdd uchel a ariennir am 39 wythnos y flwyddyn.
Byddwn yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ehangu gofal plant ymhellach drwy Dechrau'n Deg yn ystod yr hydref.
Er mwyn cyrraedd y targed hwn, byddwn yn helpu darparwyr presennol Dechrau'n Deg i estyn eu darpariaeth – yn ogystal â pharhau i annog darparwyr newydd i gynnig y rhaglen, gan gynnwys y darparwyr hynny sy'n arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Ar hyn o bryd, mae tua 36,000 o blant o dan bedair oed sy'n byw mewn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn manteisio ar y rhaglen, ac mae tua 9,000 o blant dwy oed yn cael gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel a ariennir.
Mae cyllid ychwanegol o £20 miliwn wedi cael ei ddyrannu dros y tair blynedd nesaf i gefnogi'r gwaith o ehangu'r ddarpariaeth.