Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Heddiw, rwy wedi gosod ail gyfres yr is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i gefnogi’r gwaith o roi Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar waith.
Bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn symlach ac yn haws rhentu cartref yng Nghymru, drwy ddisodli darnau amrywiol a chymhleth o ddeddfwriaeth bresennol ag un fframwaith cyfreithiol clir. Bydd 'contractau meddiannaeth' newydd yn disodli tenantiaethau a thrwyddedau preswyl cyfredol, gan wneud hawliau a rhwymedigaethau landlord a thenant neu drwyddedai (y cyfeirir atynt yn y Ddeddf fel 'deiliad y contract') yn llawer cliriach.
Mae pedwar Offeryn Statudol yn yr ail gyfres hon, ac rwy’n anelu at osod trydedd gyfres, a’r un derfynol o tua naw Offeryn Statudol, ym mis Mehefin 2022 cyn i'r Ddeddf ddod i rym ym mis Gorffennaf 2022.
Mae pob un o'r pedwar Offeryn Statudol yr wyf wedi'u gosod heddiw yn ymwneud â materion gweithdrefnol ac ymarferol a fydd yn cefnogi’r gwaith o weithredu’r Ddeddf. Ac mae pob un yn cael ei wneud o dan y weithdrefn penderfyniad negyddol ar yr un pryd.
Gellir gweld yr holl Offerynnau Statudol, canllawiau ac adnoddau eraill ar gyfer landlordiaid a thenantiaid ar wefan Rhentu Cartrefi Cymru:
Mae cyfraith tai yn newid: Rhentu Cartrefi Cymru | LLYW.CYMRU
Byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach i hysbysu Aelodau a rhanddeiliaid pan fydd y gyfres derfynol o reoliadau'n cael ei gosod.
Y Rheoliadau yr wyf wedi'u gosod heddiw yw:
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2022
Mae'r rhain yn nodi 38 o ffurflenni rhagnodedig hysbysiadau sydd i'w defnyddio gan landlordiaid neu ddeiliaid contract yn yr amgylchiadau penodol pan fo'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol neu'n awdurdodi'r naill barti neu'r llall i ddarparu gwybodaeth benodol yn ysgrifenedig. Bydd landlordiaid a deiliaid contract yn gallu lawrlwytho’r rhain o wefan Llywodraeth Cymru ac, ar ôl eu cwblhau, gellir eu cyflwyno’n electronig. Mae rhai o’r ffurflenni hefyd yn cynnwys nodiadau cyfarwyddyd er mwyn gwneud eu diben yn haws ei ddeall.
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022
Mae’r rhain yn ymwneud â dau fath o gontract meddiannaeth: contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig. Mae'r Rheoliadau yn nodi'r gweithdrefnau i'w dilyn gan landlord cymunedol, neu elusen sy'n gweithredu fel landlord, wrth gynnal adolygiad o benderfyniad i derfynu contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, neu i ymestyn y cyfnod rhagarweiniol neu'r cyfnod prawf, os bydd deiliad y contract wedi arfer ei hawl i gael adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022
Yn aml mae landlordiaid yn gofyn i denantiaid dalu blaendal fel sicrwydd yn achos, er enghraifft, unrhyw niwed posibl i'r eiddo a achoswyd gan y tenant. Fodd bynnag, nid yw’r blaendal yn perthyn i’r landlord ac felly rhaid diogelu unrhyw flaendal a delir yn briodol. Mae’r Ddeddf yn mabwysiadu'r un dull o ddiogelu blaendaliadau â deddfwriaeth bresennol, ond mae'n ymestyn y dull hwn i bob contract lle cymerir blaendal (mae'r gofynion presennol ond yn gymwys i denantiaethau byrddaliadol sicr). Rhaid i'r landlord ddiogelu pob blaendal drwy gynllun blaendal awdurdodedig, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Mae'r Offeryn Statudol hwn yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ddarparu gwybodaeth benodol i ddeiliaid contract yn ysgrifenedig, gan gynnwys: manylion gweinyddwr y cynllun megis enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost; ble mae eu blaendal yn cael ei gadw; sut y caiff ei ad-dalu ar ddiwedd y contract; pa ddidyniadau y gellir eu cymryd ohono yn rhesymol gan landlord i gwmpasu, er enghraifft, rent heb ei dalu neu niwed; a'r weithdrefn ar gyfer datrys unrhyw anghydfodau a all godi rhwng y ddau barti mewn perthynas â'r blaendal.
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo Mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi sut mae'n rhaid i landlord ymdrin ag unrhyw eiddo nad yw'n perthyn iddo a gaiff ei adael mewn annedd y mae deiliad y contract wedi troi cefn arni. Mae'r Offeryn Statudol hwn yn rhoi dyletswydd ar y landlord i ddiogelu eiddo a gaiff ei adael mewn annedd y cefnwyd arni am bedair wythnos o'r diwrnod y tybir bod y contract wedi'i derfynu.
Bydd y Rheoliadau hyn ond yn gymwys mewn perthynas ag eiddo a gaiff ei adael mewn anheddau y cefnwyd arnynt. Ni fyddant yn gymwys at eiddo a gaiff ei adael mewn anheddau lle mae'r contract wedi'i derfynu am resymau eraill, megis ar ôl troi allan.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn flaenorol mewn perthynas â'r Offeryn Statudol hwn wedi'i gyhoeddi heddiw hefyd. Ar y cyd â hwnnw, cyhoeddwyd canllawiau i landlordiaid ar feddiannu anheddau y cefnwyd arnynt, ac ar ddiogelu eiddo mewn anheddau y cefnwyd arnynt.