Yn y canllaw hwn
2. Cymhwystra
Rhaid i'r person yr ydych am ei recriwtio fodloni pob un o'r meini prawf canlynol:
- bod yn 20 oed neu'n hŷn
- bod yn anabl
- byw yng Nghymru ar ddyddiad y diswyddo a dyddiad eich cais am gyllid
- bod â'r hawl i fyw a gweithio yn y DU
Rhaid iddo hefyd fodloni un o'r meini prawf canlynol:
- bod wedi cael rhybudd diswyddo ffurfiol
- bod o fewn 6 mis i golli ei swydd
bod yn gyn-droseddwr neu'n droseddwr sy'n cyflawni ei ddedfryd yn y gymuned.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith teg. Anogir cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth sy'n cyd-fynd â'r egwyddorion hyn.
Rhaid i'r swydd rydych yn ei chynnig:
- fod am 16 awr yr wythnos neu fwy
- bod yn cael ei thalu ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'n uwch. Rydym yn annog cyflogwyr sy'n recriwtio i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf i bob gweithiwr.
- para o leiaf 12 mis
- peidio â bod yn gontract 'dim oriau' neu 'oriau heb eu gwarantu'
- peidio â chael ei chefnogi gan unrhyw gyllid cyhoeddus arall.
Ni ddylai eich busnes fod wedi cyrraedd trothwy Rheoli Cymhorthdal y DU sy'n cyfyngu ar faint o gyllid y gallwn ei ddarparu.
Bydd y gweithiwr yn cael ei wahardd o'r rhaglen os:
- bydd yn dechrau gweithio ichi cyn i’ch cais am gyllid gael ei gymeradwyo
- yw wedi bod mewn cyflogaeth barhaus am 6 wythnos neu fwy rhwng dyddiad y diswyddo a dyddiad y cais am grant