Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar adolygiad COVID-19: 3 Mawrth 2022.
Mae trosglwyddiad COVID-19 yn y gymuned yn parhau i fod yn uchel ond ar lefel sy’n lleihau. Mae’n ymddangos bod y don o heintiadau sy’n cael ei harwain gan Omicron yn gostwng. Mae niweidiau uniongyrchol yn sgil y pandemig yn parhau, ond ar lefel llawer yn is o gymharu â thonnau blaenorol. Mae’n briodol felly i barhau â’n dull gofalus o lacio’r amddiffyniadau sydd ar waith o hyd.
Rwy’n nodi bod y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a’r Grŵp Cynghori ar Fygythiadau Feirysau Anadlol Newydd a Datblygol (NERVTAG) o’r farn bod amrywolion eraill yn debygol iawn o ddod i’r amlwg yn y dyfodol. Gallai'r rhain arwain at lefelau o niweidiau uniongyrchol sy’n fwy niweidiol nag sydd wedi’u gweld â’r amrywiolyn Omicron. Wrth inni lacio mesurau amddiffynnol yn ofalus, mae’r uchod yn cadarnhau fy nghyngor blaenorol bod angen inni sicrhau gallu profi digonol er mwyn cefnogi unigolion sy’n mynd yn sâl a chefnogi lleoliadau ac unigolion sy’n agored i niwed. Mae hyn hefyd er mwyn sicrhau bod gennym system effeithiol i gadw golwg ac ymateb o ran amrywolion sy’n newydd ac yn dod i’r amlwg.
Syr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol Cymru