Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Hydref i Ragfyr 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dangosyddion allbynnau tymor-byr
Effaith y coronafeirws
Mae’r amcangyfrifon yma yn cwmpasu’r cyfnod Hydref i Rhagfyr 2021 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer 2021. Mae’r ddau gyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), fodd bynnag roedd cymhariaethau blynyddol â 2020 yn cynnwys yn fras naw mis cyntaf y pandemig.
Dylid cymryd gofal wrth ddehongli’r mynegai yma – gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio ac argymhellir canolbwyntio ar dueddiadau tymor-hirach.
Mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru fel arfer yn fwy cyfnewidiol na'r DU, ac o ganlyniad dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r ddau, yn enwedig dros y tymor-byrrach.
Prif bwyntiau
Cynyddodd pob un o’r tri mynegai yn flynyddol (y pedwar chwarter diweddaraf o gymharu â'r pedwar chwarter blaenorol) ar gyfer Cymru. Yn chwarterol, dangosodd dau o’r mynegai ostyngiad. Mae hyn yn dilyn cyfnod o newid gyda’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ar gofnod ym mis Ebrill i fis Mehefin 2020 (a oedd yn cynnwys rhan o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud) a'r cynnydd mwyaf dilynol a gofnodwyd yn ystod gorffennaf i Fedi 2020 (sy'n adlewyrchu llacio'r cyfyngiadau dros fisoedd yr haf).
Mynegai Gwasanaethau Marchnata
- Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 8.6% yng Nghymru a chynnydd o 6.2% yn y DU yn 2021, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
- Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn pump allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
- Mae’r Mynegai Gwasanaethau Marchnata ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad o 1.4% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 1.6% dros yr un cyfnod.
Mynegai Cynhyrchu
- Mae'r duedd tymor-hir yng Nghymru yn dangos cynydd blynyddol o 2.0% yn 2021. Cynyddodd allbwn y DU o 5.1% dros yr un cyfnod.
- Wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol, roedd gostyngiad yn y Mynegai Cynhyrchu o 3.1% yng Nghymru a 0.2% yn y DU.
Mynegai Adeiladu
- Mae'r duedd tymor-hir yng Nghymru yn dangos cynnydd blynyddol o 21.6% yn 2021. Bu cynnydd o 12.9% yn allbwn y DU dros yr un cyfnod.
- Mae’r Mynegai Adeiladu ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 4.6% wrth gymharu’r chwarter cyfredol â’r un blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU 1.0% dros yr un cyfnod.
Adroddiadau
Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Hydref i Ragfyr 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 645 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.