Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb tair blynedd i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur a gwella cyfleoedd addysgol.
Cyhoeddir y gyllideb derfynol ar Ddydd Gŵyl Dewi a daw cyn pleidlais yn y Senedd yr wythnos nesaf.
Bydd bron i £2 biliwn o fuddsoddiad gwyrdd wedi’i dargedu yn cryfhau ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Bydd GIG Cymru yn cael £1.3 biliwn mewn cyllid uniongyrchol, gan helpu ei adferiad yn dilyn y pandemig a’i allu i ddarparu gwasanaethau effeithiol yn y tymor hir.
Mae bron i £0.75 biliwn yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn awdurdodau lleol. Bydd y cyllid hwn yn cryfhau gofal cymdeithasol ac yn cefnogi ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill a ddarperir mewn cymunedau lleol gan gynghorau lleol.
Bydd ansawdd adeiladau ysgolion yn cael ei wella drwy £900 miliwn o gyllid cyfalaf, tra bydd £320 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu i barhau â’r rhaglen tymor hir o ddiwygio dysgu ac addysg.
Am y tro cyntaf, mae’r gyllideb yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau cyllido i adlewyrchu’r Cytundeb Cydweithio dros dair blynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Cyhoeddir y gyllideb derfynol yn dilyn craffu ar y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Bydd y Gweinidogion yn ymateb i ystod eang o argymhellion a wnaed gan Bwyllgorau’r Senedd.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
Bydd y gyllideb hon yn helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur wrth gryfhau’r GIG, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, y system addysg ac ystod o wasanaethau hanfodol. Mae’n gyllideb ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach ac yn un rwy’n falch o’i chyhoeddi.
Mae cyllideb tair blynedd yn helpu i roi gwasanaethau cyhoeddus ar sylfaen tymor hwy, gan ein helpu i adfer ac ailadeiladu yn dilyn y pandemig.
Rhwng y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol, rydym wedi ymrwymo £330 miliwn yn ychwanegol mewn pecyn cymorth sy’n cwmpasu 2021-22 a 2022-23 i helpu pobl i ddelio â’r argyfwng costau byw.
Mae Datganiad y Gwanwyn sydd i ddod gan Lywodraeth y DU yn gyfle iddi ddarparu cymorth ystyrlon ei hun i helpu pobl i dalu biliau a rhoi bwyd ar y bwrdd.
Mae cyllid wedi cael ei ddyrannu yn y gyllideb i gyflawni’r ymrwymiadau polisi sydd o fewn y Cytundeb Cydweithio.
Mae hyn yn cynnwys £200 miliwn yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i gyflawni’r ymrwymiad i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru.
Ychwanegodd Siân Gwenllïan AS, Aelod Arweiniol Dynodedig:
Fel pecyn, mae’r gyllideb yn dangos bod gweithio gyda’n gilydd yn gallu gwneud gwir wahaniaeth i fywydau llawer o gymunedau a phobl ar hyd a lled y wlad. Mae yna gyfres o fuddsoddiadau sy’n unioni anghyfiawnderau cymdeithasol, mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac adeiladu yn ôl o’r pandemig wrth i ni wynebu heriau mawr y dyfodol gyda’n gilydd.
Rwyf wrth fy modd gweld wrth galon y gyllideb derfynol y buddsoddiad gwerth cannoedd o filiynau o bunnau mewn prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Mae sicrhau nad oes eisiau bwyd ar yr un plentyn yn un o’n blaenoriaethau pennaf, yn bwysicach byth wrth i fwy a mwy o deuluoedd gael trafferth gyda chostau byw cynyddol. Dyma dystiolaeth ymarferol o’n hymroddiad i gynorthwyo’r mwyaf anghenus yn ein cymdeithas; dyma ni yn rhoi ein hegwyddorion ar waith drwy gyfrwng cyllideb genedlaethol.
Bydd £60 miliwn arall yn cael ei wario ar gyflawni’r ymrwymiad i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed, gyda ffocws penodol ar ddarparu a chryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Bydd £48 miliwn o refeniw ychwanegol a chyfanswm buddsoddiad o £102 miliwn o gyfalaf yn helpu i wella mesurau rheoli a lliniaru llifogydd. Yn ogystal, mae’r gyllideb yn dyrannu £14 miliwn o refeniw ychwanegol i gefnogi gwelliannau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd y sector diwylliant a darlledu yn cael £27 miliwn o gymorth ariannol ychwanegol ac mae £11 miliwn wedi cael ei ddyrannu ar gyfer ail gam rhaglen Arfor.