Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4m o gymorth ariannol a dyngarol i Wcráin, a fydd yn helpu i gefnogi’r rheini sydd mewn gwir angen.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4m o gymorth ariannol a dyngarol i Wcráin, a fydd yn helpu i gefnogi’r rheini sydd mewn gwir angen.
Wrth siarad yn y Siambr, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
“Rydyn ni’n dangos ein cefnogaeth i bobl Wcráin sy’n gwrthsefyll yn ddewr y weithred hon o ryfel greulon ddireswm.
“Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £4m o gymorth ariannol a dyngarol i Wcráin, a fydd yn helpu i ddarparu cymorth hanfodol i lawer o bobl sydd mewn gwir angen. Rydyn ni hefyd yn asesu pa gyfarpar meddygol dros ben y gellid ei ddarparu mewn modd defnyddiol.
“Mae Cymru, a hithau yn Genedl Noddfa, yn barod i groesawu pobl sy’n ffoi o Wcráin. Byddwn ni’n cynnal trafodaethau brys yfory gydag arweinwyr awdurdodau lleol i sicrhau bod paratoadau yn eu lle i groesawu’r ffoaduriaid hyn.
“Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU i annog Llywodraeth y DU i gryfhau’r trefniadau sydd ganddi ar waith er mwyn galluogi dinasyddion Wcráin i ddod i’r DU yn gyflym ac yn ddiogel. Mae’n hanfodol bod pobl yn gallu ceisio noddfa ddiogel yma heb i fiwrocratiaeth arafu’r broses.
“Rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod ei dyletswydd i alluogi pobl i geisio diogelwch mewn sefyllfaoedd fel y rhai trist ac arswydus yr ydyn ni’n eu gweld nawr.”
Mae’r ymosodiad gan Rwsia ar Wcráin wedi golygu bod degau o filoedd o bobl Wcráin wedi colli eu cartref, gan nodi dechrau'r hyn a allai fod yn argyfwng dyngarol mwyaf ein cyfandir ers degawdau. Anogir unrhyw un sy’n gallu helpu i ystyried gwneud cyfraniad ariannol i British Red Cross, UNICEF UK neu UNHCR UK.