Daeth yr ymgynghoriad i ben 27 Tachwedd 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 541 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem wahodd eich sylwadau ar fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o gam 3 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar reoliadau drafft a fydd yn gwneud y canlynol:
- gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig ac unigolion cyfrifol
- gosod gofynion tebyg ar ddarparwyr gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol a'u rheolwyr.
Rydym hefyd yn awyddus i gael eich barn ar:
- ganllawiau statudol drafft a chod ymarfer a fydd yn cyd-fynd â'r rheoliadau
- yr opsiynau ar gyfer cynnal adolygiadau annibynnol o benderfyniadau mabwysiadu yn y dyfodol.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cynnal digwyddiadau ar gyfer darparu gwybodaeth.
- 6 Tachwedd yng Nghaerdydd
- 8 Tachwedd yn Wrecsam
I gael rhagor o fanylion, e-bostiwch: RISCAct2016@llyw.cymru