Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi darparu ar gyfer creu Cyd-bwyllgorau Corfforedig i sicrhau bod mwy o gydweithredu’n digwydd ar draws llywodraeth leol. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio dull fesul cam wrth weithredu’r fframwaith rheoleiddio y mae ei angen ar y cyrff cyhoeddus newydd a phwysig hyn. Y bwriad cyffredinol yw trin y Cyd-bwyllgorau fel rhan o’r ‘teulu awdurdod lleol’ yng Nghymru, gan eu gwneud yn ddarostyngedig gan mwyaf i’r un pwerau a dyletswyddau, neu bwerau a dyletswyddau tebyg, o ran sut y maent yn gweithredu ac yn cael eu llywodraethu.
Ym mis Mawrth 2021, gwnaed rheoliadau a oedd yn darparu ar gyfer creu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru. Roedd y rheoliadau sefydlu hynny hefyd yn cynnwys y trefniadau cyfansoddiadol craidd a manylion allweddol, megis ynglŷn â’r aelodaeth a’r swyddogaethau a fydd yn cael eu cyflawni gan bob Cyd-bwyllgor. Ochr yn ochr â’r rheoliadau sefydlu, roedd nifer o offerynnau eraill a oedd yn sicrhau bod y Cyd-bwyllgorau (a’u haelodau) yn ddarostyngedig i’r gofynion oruchwylio, rheoli ac ymddygiad priodol.
Ym mis Tachwedd 2021, cafodd yr ail dranche o ddeddfwriaeth, a oedd yn parhau i gyflwyno’r dyletswyddau corff cyhoeddus angenrheidiol fel sail ar gyfer gweithredu’r Cyd-bwyllgorau, ei gymeradwyo gan y Senedd. Hefyd, fe weithredwyd rhagor o’r darpariaethau deddfwriaethol ehangach er mwyn sicrhau bod y Cyd-bwyllgorau’n gweithredu mewn modd priodol ac yn unol â deddfwriaeth llywodraeth leol. Roedd hyn yn cynnwys rolau ‘swyddogion gweithredol’ penodol i gefnogi gwaith y Cyd-bwyllgorau yn ogystal â rhai darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â staff y Cyd-bwyllgorau, a hefyd y cyfarfodydd a’r trafodion.
Heddiw, rwyf wedi gosod dau Offeryn Statudol pellach, sef y trydydd tranche deddfwriaeth. Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 drafft yn parhau i weithredu’r fframwaith deddfwriaethol llywodraeth leol y mae’n rhaid i Gyd-bwyllgorau weithredu’n unol ag ef. Mae hynny’n cynnwys darpariaethau mewn perthynas ag ymddygiad, y pŵer i fasnachu, a nifer o fân ddarpariaethau sy’n ymwneud â chyllid, achosion cyfreithiol, cofnodion / dogfennau, a materion yn ymwneud â staffio a’r gweithlu.
Ochr yn ochr â’r rhain, mae Gorchymyn Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (Awdurdod Ychwanegol) (Cymru) 2022 drafft yn diwygio Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 i gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn y rhestr o awdurdodau y mae’n rhaid iddynt roi sylw dyledus i’r effeithiau tebygol y gallai cyflawni eu swyddogaethau eu cael ar atal trosedd ac anhrefn yn eu hardaloedd, y camddefnydd o gyffuriau, alcohol a sylweddau eraill yn eu hardaloedd, ac aildroseddu yn eu hardaloedd, a’r angen iddynt wneud popeth y gellir ei wneud yn rhesymol i atal y pethau hyn.
Cynhelir dadl ar y ddau Offeryn Statudol yn y Senedd ar 22 Mawrth. Yn amodol ar gael eu cymeradwyo, byddant yn dod i rym ar 25 Mawrth.
Rwy’n bwriadu lansio ymgynghoriad ar y pedwerydd tranche o reoliadau arfaethedig yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddai’r rhain yn darparu ar gyfer unrhyw ddarpariaeth sy’n weddill, gan gynnwys mewn perthynas â chraffu, rheolau sefydlog, a defnyddio’r gyfundrefn perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol ar gyfer y Cyd-bwyllgorau hyn. Byddai hynny’n ategu’r gofynion sydd ar waith eisoes mewn perthynas â thryloywder gwaith y Cyd-bwyllgorau, yn ogystal â hygyrchedd a chyfranogiad y cyhoedd. Wrth gwrs bydd yn rhaid i amserlen yr ymgynghoriad ystyried yr etholiadau llywodraeth leol a gynhelir ym mis Mai.