Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 19 Ionawr 2022
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 19 Ionawr 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cydgadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Comisiynwyr
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Michael Marmot
- Lauren McEvatt
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Sylwedydd
- Gareth Williams, Panel yr Arbenigwyr
Ar gyfer Eitem 4
- Yr Athro Jean Jenkins, Cadeirydd, Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, TUC Cymru
- Joe Allen, TUC Cymru
- Nisreen Mansour, TUC Cymru
- Julie Cook, Swyddog Cenedlaethol, TUC Cymru
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
- Carys Evans, Cynghorydd
- Heulwen Vaughan, Ysgrifennydd y Comisiwn
- Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
- Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa
- Rod Hough, Rheolwr Swyddfa
Eitem 1: Croeso gan y Cydgadeiryddion
Croesawodd y cydgadeiryddion y comisiynwyr i ail gyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Eitem 2: Rhaglen Waith
Trafododd y comisiynwyr y rhaglen waith a dulliau posibl ar gyfer meithrin cysylltiadau â’r cyhoedd mewn manylder, gan adlewyrchu’n ôl ar y gweithdai a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr ac ym mis Ionawr. Cytunwyd y dylai’r Comisiwn lansio galwad am dystiolaeth a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyn gynted â phosibl.
Eitem 3: Diweddariad ynglŷn â Phanel yr Arbenigwyr
Rhoddodd y cydgadeiryddion ddiweddariad i’r comisiynwyr ynghylch penodiadau i Banel yr Arbenigwyr.
Eitem 4: Yr Athro Jean Jenkins, Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, TUC Cymru
Ymunodd yr Athro Jean Jenkins, Cadeirydd y Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith, TUC Cymru â’r cyfarfod er mwyn rhoi crynodeb ar waith y Comisiwn. Cytunwyd y byddai’n ddefnyddiol i’r ddau Gomisiwn gadw mewn cysylltiad â’i gilydd wrth i’w rhaglenni gwaith perthnasol ddatblygu.
Eitem 5: Unrhyw fater arall
Ni chodwyd unrhyw faterion eraill. Rhoddwyd diolch gan y cydgadeiryddion i’r comisiynwyr am eu hamser. Nodwyd dyddiad y cyfarfod nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: