Mae cymorth ar gael i rieni cyn cyflwyno’r gwaharddiad smacio yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfraith newydd a hefyd yn dangos ffordd ymlaen i ddisgyblu plant heb orfod troi at gosbi corfforol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mae Llywodraeth Cymru yn estyn allan i rieni gyda rhwydwaith o gymorth i'w helpu i wynebu'r heriau o fagu eu plant.
Daw'r cam hwn cyn y ddeddf newydd sydd ar fin dod i rym. Bydd y ddeddf yn rhoi’r un amddiffyniad i blant ag sydd gan oedolion rhag ymosodiad.
Bydd pob math o gosbi corfforol, fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd, yn anghyfreithlon pan ddaw'r ddeddfwriaeth i rym ar 21 Mawrth.
Bydd y gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr. Mae mwy na 60 o wledydd eraill ledled y byd eisoes yn gwahardd cosbi plant yn gorfforol, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Mae gwahaniaeth mawr rhwng disgyblu a chosbi corfforol. Mae angen disgyblaeth ar bob plentyn – mae hyn yn ymwneud â rhoi ffiniau, arweiniad a chymorth wrth iddynt dyfu i fyny a dysgu ymddygiad priodol. Ond ddylai cosbi corfforol ddim cael ei ddefnyddio wrth ddisgyblu.
Gall cosbi corfforol gael effaith negyddol barhaol ar blentyn, gan arwain at ofn, dicter, tristwch a dryswch. Mae defnyddio cosbi corfforol hefyd yn dysgu plant bod trais yn dderbyniol ac yn ymateb priodol i deimladau cryf.
Cymorth wrth law i ymdopi – a ffynnu
Mae Llywodraeth Cymru, drwy ei hymgyrch flaenllaw, Magu Plant. Rhowch amser iddo, yn cynnig tips ymarferol a chyngor arbenigol am ddim ar y dewisiadau eraill sydd ar gael yn lle cosbi corfforol ac ar gyfer pob her wrth fagu plant hyd at 18 oed.
Mae cyngor ar gael ar y canlynol:
- Deall a rheoli ymddygiad
- Tips ac awgrymiadau magu plant cadarnhaol
- Manteision defnyddio canmoliaeth
- Mynd i’r afael â heriau cyffredin wrth fagu plant fel strancio, hyfforddiant tŷ bach, amser gwely a threfn arferol, amser sgrin, iechyd a lles ac awgrymiadau da i rieni â phobl ifanc yn eu harddegau.
- Yr heriau o ddydd i ddydd o fod yn rhiant, gan gynnwys rhestr o sefydliadau a all roi cymorth a chefnogaeth.
Yn yr adran o'r enw: Gofalu amdanoch chi a'ch teulu, dywedodd: "Gall bod yn rhiant fod yn un o'r swyddi mwyaf gwerthfawr ond heriol yn y byd.
"Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch plentyn neu os oes gennych chi bwysau eraill fel pryderon ariannol neu bryderon am chwalfa perthynas, cofiwch - dydych chi ddim ar eich pen eich hun."
Mae cymorth llinell gymorth am ddim ar y wefan, gan gynnwys Family Lives a Parent Talk Cymru.
Dylanwadu ar blant er gwell
Mae'r gyfraith newydd wedi ei chroesawu gan bâr y mae eu cefndir proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymdeithasol wedi dangos effeithiau negyddol cosbi corfforol ar deuluoedd.
Mae Nadia a Sy Joshua, o Fro Morgannwg, wedi gweld yn uniongyrchol effaith hirdymor cosbi corfforol ar blant, rhieni a gofalwyr.
Mae gan Nadia a Sy, ddwy ferch, naw a chwech oed, ac maen nhw wedi gweld o brofiad, yn eu gwaith, nad cosbi corfforol yw'r ateb byth.
Dywedodd Sy: "Rwy'n dod o gefndir India'r Gorllewin, a diwylliant lle'r oedd cosbi corfforol yn aml yn cael ei defnyddio yn y cartref. Byddai'r cenedlaethau hŷn yn ffafrio cosbi corfforol – roedden nhw’n credu y byddai peidio â chosbi yn gorfforol yn sbwylio'r plentyn. Ond chefais i erioed fy nghosbi'n gorfforol a dydw i ddim yn cosbi fy mhlant fy hun yn gorfforol; mae'r cylch wedi'i dorri.
"I mi, mae'r syniad o fygwth rhywun sy'n llai na fi i'w plygu i fy ewyllys i, a hyd yn oed mynd ymhellach a rhoi fy nwylo arnyn nhw, yn ffiaidd."
Ychwanegodd Nadia: "Pan fyddwn ni’n gwneud penderfyniadau am ein dull magu plant, rwy'n meddwl am fy mhlant fel oedolion a rhieni yn y dyfodol. Sut bydd yr hyn rwy’n ei ddweud heddiw yn dylanwadu arnyn nhw yn y dyfodol a beth fyddan nhw’n ei ddweud wrth eu plant nhw? "
Mae opsiynau eraill bob amser, i osgoi cosbi corfforol
Mae Erthygl 19 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn rhoi'r hawl i blant gael eu hamddiffyn rhag cael eu niweidio a’u brifo. Mae hyn yn cynnwys cosbi corfforol.
Yn 1979, Sweden oedd y wlad gyntaf yn y byd i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Mae dros 60 o wledydd bellach wedi gwneud yr un peth.
Llywodraeth Cymru fydd y drydedd yn Ynysoedd Prydain, ar ôl Jersey a'r Alban yn 2020, i wneud cosbi corfforol yn anghyfreithlon.
Nid yw cosbi plant yn gorfforol yn effeithiol o ran gwella ymddygiad plant; yn hytrach, mae'n cynyddu anawsterau ymddygiad, yn ôl adolygiad gan UCL.
Bydd cosbi corfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru o 21 Mawrth 2022. Dysgwch ragor yn llyw.cymru/stopiocosbicorfforol
Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn cynnig ffyrdd eraill, cadarnhaol, o reoli ymddygiad. Ewch i llyw.cymru/ rhowchamseriddo
Arwain drwy esiampl yw’r ffordd ymlaen
Dywedodd Dr Bethan McMinn, pediatregydd ymgynghorol: "Yn anffodus, yn ein gwaith ni, rydym ni’n gweld cleisiau a marciau sydd wedi’u hachosi gan smacio. Er bod rhai rhieni’n smacio’u plentyn gan feddwl y bydd yn gwella ymddygiad, mae astudiaeth fawr ddiweddar wedi darganfod nad yw hyn yn wir. Dangosodd yr astudiaeth nad yw cosbi plant yn gorfforol yn effeithiol – a dweud y gwir, mae’n gwneud problemau ymddygiad yn waeth.
“Nid yw’n bosibl dweud bod unrhyw gosb gorfforol yn gwbl "ddiogel" a gall y sefyllfa golli rheolaeth yn sydyn.
“Yn aml rwy’n clywed, "wnaeth smacio ddim drwg i fi" - ond dydy hynny ddim yn ei wneud yn iawn. Dydy smacio plant byth yn rhesymol, does byth esgus dros wneud hynny a does dim angen gwneud hynny i ddisgyblu plentyn.
“Dylem ni fod yn arwain drwy esiampl, ac mae taro rhywun yn ymosodiad, beth bynnag yw oedran y person. Rwy’n falch bod y gyfraith yn newid yng Nghymru gan ei bod yn rhoi’r un amddiffyniad i blant ag i oedolion.”
Mae cymorth ar gael nawr
Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn cynnig cymorth magu plant cadarnhaol ac awgrymiadau, tips a chyngor ymarferol i annog ymddygiad da gan blant a phobl ifanc fel dewisiadau amgen i gosb gorfforol. Mae'r dudalen cymorth magu plant yn cynnig dolenni i gymorth pellach a llinellau cymorth.
Dysgwch am y gyfraith newydd yng Nghymru yma.