Rhoddwyr byw: Jacqui Robins
Ar ôl cael ei hysbrydoli gan salwch dirybudd cyfaill iddi, penderfynodd Jacqui Robins o Riwbeina yng Nghaerdydd ddod yn rhoddwr aren allgarol.
Rhoi organau allgarol yw’r enw a roddir ar achos pan fydd person byw iach yn rhoi organ, megis aren, i glaf nad yw’n ei adnabod sy’n aros am drawsblaniad.
“Pan gafodd ffrind agos i’r teulu ei ruthro i’r ysbyty gyda chymhlethdodau’n deilio o gerrig yn yr aren, daeth y posibilrwydd y byddai’n rhaid trawsblannu’n anghyffyrddus o fyw i ni,’ meddai Jacqui. ‘Diolch byth, roedd modd i’r meddygon drin fy ffrind yn llwyddiannus heb fod angen rhoi dialysis hirfaith na gorfod aros am drawsblaniad. Ond roedd difrifoldeb ei sefyllfa ef wedi peri i mi werthfawrogi cynifer o bobl sy’n union fel fe, yn aros am rywun i fod yn addas ar gyfer rhoi aren, a’r llawdriniaeth yna wedyn i achub bywyd. Roeddwn i’n benderfynol o roi un o’r ddwy aren iach sydd gen i ar waith er mwyn rhywun arall, a dyna arweiniodd fi at ymchwilio i’r pwnc ac, yn y pen draw, at wneud y penderfyniad i ddod yn rhoddwr organ allgarol.
“Fe wnes i apwyntiad yn yr ysbyty trawsblannu lleol yng Nghaerdydd. Fe ges fy arwain drwy’r broses gan y cydlynydd trawsblaniadau, a thawelwyd fy meddwl o ran bod gen i’r hawl i newid fy meddwl ar unrhyw adeg yn y broses – hyd at y diwrnod cyn y llawdriniaeth. Fe ges i archwiliad meddygol trylwyr i wneud yn siŵr fy mod i’n iach a bod y ddwy aren yn hollol iawn, gan sicrhau y byddwn i’n dal i fod yn holliach pe bawn i’n dewis rhoi un i rywun arall. Roedd yr archwiliad yn cynnwys cyfres o brofion gwaed i gadarnhau mod i’n addas i fod yn rhoddwr aren byw ac i adnabod rhywun addas i roi fy aren iddyn nhw. Ar ôl dod o hyd i rywun oedd yn gweddu, fe ges i lawdriniaeth ddiffwdan i dynnu un aren ym mis Mai 2014 ac roeddwn yn ôl ymysg fy mhethau ymhen wythnos. Fe fuodd fy ngŵr a’r tri phlentyn sydd yn oedolion yn eithriadol o gefnogol drwy gydol yr holl broses, ac fe gadwon nhw lygad arna i er mwyn gwneud yn siŵr mod i’n glynu wrth y cyfnod gorffwyso o 12 wythnos sy’n cael ei argymell er mwyn gwella’n llwyr.
“Mae rhoi aren er mwyn gwella bywyd rhywun arall yn brofiad mor werthfawr i bawb sy’n ymwneud â’r broses. Mae rhoi organ yn allgarol yn digwydd yn hollol ddienw, dyw’r claf na’r rhoddwr byth yn cwrdd, ond rwy’n gobeithio y galla i annog eraill i ddilyn fy arweiniad wrth iddyn nhw glywed fy stori i, gan roi rhodd o fywyd llawn a dymunol i rywun sydd mewn angen.”
Rhoddwyr byw - oes diddordeb gennych chi?
Dysgwch am sut i ddod yn rhoddwr byw a rhoi'r rhodd orau bosib.