Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:
"Rydym yn gweithio gydag asiantaethau cenedlaethol, awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys i baratoi ar gyfer y storm Eunice.
"Mae rhybudd coch wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhan helaeth o dde Cymru o 07.00 yfory, sy'n golygu bod perygl i fywyd.
"Rydym yn disgwyl i’r tywydd darfu ar drefniadau teithio - bydd pob trên yng Nghymru yn cael ei ganslo ddydd Gwener - felly meddyliwch yn ofalus cyn teithio. Teithiwch dim ond os oes raid i chi.
“Fe fynychais gyfarfod COBR yn gynharach heddiw ac mae Cabinet Llywodraeth Cymru yn cyfarfod y prynhawn yma i drafod y paratoadau ar gyfer y storm.
“Byddwn yn monitro'r sefyllfa'n gyson ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl Cymru.
"Gwnewch baratoadau heddiw er mwyn i chi allu cadw eich hun ac anwyliaid yn ddiogel."