Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal adolygiad o'r mesurau coronafeirws bob tair wythnos. Cwblhawyd yr adolygiad tair wythnos diweddaraf ar 10 Chwefror.
Mae’r achosion cyffredinol o COVID-19 a’r positifedd profion a adroddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi parhau i ostwng ledled Cymru ers 28 Ionawr 2022. Ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 11 Chwefror, roedd digwydded achosion o’r coronafeirws yn 309.2 fesul 100,000 o'r boblogaeth ac roedd positifedd profion yn 27.9%. Mae'r ddau ffigur yn sylweddol is nag oeddent adeg brig y don Omicron. Mae’r trefniadau profi wedi cael eu heffeithio gan newidiadau polisi, ond mae ffynonellau data eraill fel Arolwg Heintiadau Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn amcangyfrif gostyngiad yn y cyfraddau yn ystod yr wythnos ddiweddaraf ac ers brig y don Omicron.
Wrth i gyfraddau achosion, derbyniadau i’r ysbyty a nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio mewn unedau gofal dwys barhau i ostwng, mae'r sefyllfa iechyd yn parhau'n ffafriol. Mae hyn yn golygu, o 18 Chwefror ymlaen, y gallwn barhau â'r bwriad, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, i ddileu'r cyfyngiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n gyfrifol am fath penodol o safle gymryd mesurau rhesymol i sicrhau mai dim ond os oes ganddynt yr hyn sy’n cael ei alw’n gyffredin yn “Bàs COVID domestig” y bydd oedolion ar y safle hwnnw.
Fodd bynnag, gall lleoliadau ddewis defnyddio'r Pàs COVID domestig o hyd ar sail wirfoddol fel rhan o'u hasesiad risg penodol y coronafeirws a’u mesurau rhesymol.
Mae'r rheoliadau hefyd wedi'u diwygio i ymestyn yr eithriad fel ei fod hefyd yn berthnasol i gysylltiadau agos – sydd wedi cael eu brechu’n llawn – personau sy’n profi’n bositif am y coronafeirws. Nid oes raid i'r rheini sydd wedi cael brechlynnau cymeradwy dramor hunanynysu mwyach os byddant yn cael eu hadnabod fel cysylltiadau agos.
At hynny, byddwn yn ymestyn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc) (Cymru) 2020 tan 28 Mawrth.
Amddiffyniadau cyfreithiol sy'n ymwneud â gorchuddion wyneb; busnesau i gynnal asesiad risg penodol y coronafeirws ac i gymryd mesurau rhesymol; a threfniadau hunanynysu yn parhau ar waith.
Am y tro, bydd yr amddiffyniadau cyfreithiol sy'n weddill yn cael eu hadolygu’n barhaus.
Gyda nifer cynyddol o bobl yn cael eu brechu a diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru, gallwn barhau i edrych ymlaen at ddyddiau gwell o'n blaenau.