Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Ebrill i Fehefin 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cynnyrch domestig gros rhanbarthol
Mae'r data Cynnyrch Domestig Gros (CDG) diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 2022.
Mae cynnyrch domestig gros (CDG) yn mesur gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn y DU. Mae'n amcangyfrif maint a thwf yr economi.
Ystadegau arbrofol yw'r rhain a dylid eu trin yn ofalus. Gall y data fod yn gyfnewidiol, a dylid ystyried symudiadau chwarterol ochr yn ochr â'r duedd hirdymor.
Newid dros y chwarter
- Cynyddodd cynnyrch domestig gros (CDG) yng Nghymru 6.2% yn chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 2021 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Ionawr i Mawrth). Mae hyn yn dilyn gostyngiad yn chwarter 1 2021, wrth i gyfyngiadau clo gael eu hailgyflwyno.
- Cafwyd cynnydd ym mhob un o wledydd y DU, gyda’r cynnydd mwyaf yng Nghymru.
- Gweithgareddau llety a gwasanaeth bwyd ddangosodd y cynnydd mwyaf yn chwarter 2 2021 (i fyny 41.9%), adferiad o’r gostyngiad mwyaf yn chwarter 1 2021 (i lawr 16.2%).
- Gweithgareddau ariannol ac yswiriant a brofodd y gostyngiad mwyaf (i lawr o 16.1%).
Nodyn
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi oedi cyn diweddaru'r gyfres amser rhwng Chwarter 1 2012 a Chwarter 4 2019 i ganolbwyntio ar ddatblygu dulliau o wella ansawdd data a lleihau amlder y diwygiadau.
O ganlyniad, mae’r data yn y datganiad hwn wedi'u diweddaru i gynnwys chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 2021 ond nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i gyfnodau data cynharach, gan gynnwys alinio â Chyfrifon Rhanbarthol Blynyddol neu Gyfrifon Gwladol Chwarterol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. O'r herwydd, mae'r sylwebaeth wedi'i chyfyngu i newidiadau chwarter chwarter o Chwarter 1 2021 i Chwarter 2 2021.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.