Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) heddiw wedi cyhoeddi ei argymhellion i ehangu’r rhaglen frechu COVID-19 ymhellach i blant 5 i 11 oed nad ydynt yn perthyn i grŵp risg clinigol.
Fel y nodais yn fy natganiad ddoe (15 Chwefror), rwyf wedi derbyn y cyngor hwn ac rwy’n ddiolchgar i’r JCVI am ei dystiolaeth, ei ystyriaethau a’i arbenigedd, sydd wedi bod mor werthfawr drwy gydol y pandemig.
Ar hyn o bryd, ar sail cydbwyso’r manteision a’r niwed posibl, mae’r JCVI o blaid cynnig y brechlyn i bob plentyn 5 i 11 oed.
Mae’n cynghori bod dau ddos 10 mcg o’r brechlyn COVID-19 Pediatrig Pfizer-BioNTech (Comirnaty®) yn cael eu cynnig, gyda bwlch o 12 wythnos o leiaf rhwng y ddau ddos. Rhaid rhoi’r cyfle i blant mor ifanc â hyn gael rhiant neu warcheidwad gyda nhw yn ystod y brechiad. Nid yw’r cyngor yn cynnwys blaenoriaethu unrhyw oedrannau penodol o fewn y grŵp oedran dan sylw, felly bydd yn haws i frodyr a chwiorydd cymwys gael eu brechu ar yr un pryd.
Mae’r JCVI yn cynghori cynnig y brechiadau drwy gynllun llai brys, gyda’r nod o gynyddu imiwnedd y grŵp oedran hwn cyn unrhyw donnau COVID-19 posibl yn y dyfodol, gan alluogi plant i fanteisio ar gymaint o amser â phosibl yn yr ysgol. Mae hefyd yn cynghori na ddylai’r cynnig hwn ddisodli’r gwaith o gyflwyno rhaglenni imiwneiddio pediatrig eraill, pa un a ydynt gysylltiedig â COVID-19 ai peidio.
Dylid rhoi sylw dyledus i’r gwaith o gyflwyno rhaglenni imiwneiddio pediatrig eraill nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 i bob oedran, yn enwedig pan fo lefelau brechu yn is na’r disgwyl oherwydd pandemig COVID-19 a phan fo tystiolaeth o anghydraddoldeb iechyd. Mae afiechydon a fu unwaith yn gyffredin nawr yn brin yn y DU oherwydd brechu.
Byddwn i’n annog plant, pobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr i ddilyn y cyngor Iechyd Cyhoeddus a sicrhau eu bod wedi’u brechu’n llawn i’w diogelu rhag clefydau a all fod yn ddifrifol, fel y frech goch a llid yr ymennydd.
Mae’r JCVI yn ystyried mai rhaglen untro fydd hon er mwyn ymateb i’r pandemig. Wrth i bandemig COVID-19 ddod yn fwy endemig yn y DU, bydd y JCVI yn adolygu a fydd yn parhau i gynghori bod y brechlyn yn cael ei gynnig i’r grŵp hwn ac i grwpiau pediatrig eraill yn y tymor hirach.
Mae GIG Cymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer hyn ers sawl wythnos. Mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod y canllawiau imiwneiddio a chlinigol angenrheidiol ar gael, a bod gwybodaeth ffeithiol a dibynadwy ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i blant a rhieni ei hystyried wrth wneud eu penderfyniad, cyn y bydd byrddau iechyd yn barod i weithredu’r rhaglen.
Byddwn i’n annog teuluoedd i ddechrau sgyrsiau am y cynnig ac ystyried a ydynt am fanteisio ar y brechlyn pan fydd ar gael.