Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru i anrhydeddu arwyr pob dydd.
Heddweision a achubodd menyw 92 oed o dŷ ar dân, cyflwynydd ITV sydd wedi goroesi camdriniaeth yn y cartref ac yn awr yn ymgyrchydd, cyn-gamblwr sydd yn helpu pobl eraill sy’n gaeth i gamblo – mae’r rhain i gyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Dewi Sant.
Mae Gwobrau Dewi Sant, a fydd yn dathlu eu nawfed flwyddyn yn 2022, yn cydnabod gorchest eithriadol pobl o bob cwr o Gymru.
Bydd gwobrau eleni yn cael eu rhoi i bobl a chwmnïau mewn naw categori gwahanol, gan gynnwys Dewrder, Ysbryd y Gymuned ac Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Bydd Prif Weinidog Cymru yn rhoi ei wobr arbennig.
Wrth gyhoeddi'r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
"Mae rhai o'r bobl sydd ar y rhestr fer wedi dangos dewrder a phenderfyniad eithriadol. Mae eraill wedi dangos ysbryd cymunedol anhygoel er gwaetha’r pwysau aruthrol o fyw drwy bandemig y coronafeirws.
"Mae ein teilyngwyr yn bobl syfrdanol ac rydym yn ffodus iawn eu bod yn byw yng Nghymru. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’i amser i enwebu rhywun am wobr – yn anffodus mae’n amhosib rhoi pawb ar y rhestr fer."
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar 7 Ebrill 2022.
Gweler holl rownd derfynol 2022.
Dewrder
- PC Ian Chattun a’r Rhingyll Katy Evans - Heddlu Dyfed Powys
- PC Thomas Scourfield a’r Rhingyll Geraint Jenkins - Heddlu De Cymru
- Aaron Gray - Cyn filwr yn y Lluoedd Arfog
Busnes
- Gwasanaethau glanhau a diogelwch A&R - Busnes glanhau a diogelwch
- Awesome Wales CIC - Menter gymdeithasol
- Jordan Lea -Busnes codi ymwybyddiaeth caethiwed gamblo
Ysbryd y Gymuned
- Carole Anne Dacey - Gwirfoddolwr
- Ruth Dodsworth - Cyflwynydd teledu ac ymgyrchydd yn erbyn trais yn y cartref
- Siop Griffiths - Menter gymdeithasol
Gweithiwr Allweddol
- Dr Eilir Hughes - Meddyg teulu
- Michelle Jones a Catherine Cooper – Pennaeth Ysgol a Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Landsdowne
- Tîm nyrsio anadlol Ysbyty Morgannwg - Ysbyty Frenhinol Morgannwg
- Ysgol Esceifiog - Ysgol
Diwylliant
- Berwyn Rowlands - Cyfarwyddwr Gwobr Iris
- Dr Ami Jones a Glenn Dene - Gweithwyr rheng flaen
- Jessica Dunrod - Awdur
Pencampwr yr Amgylchedd
- Dr Sarah Beynon - The Bug Farm - Cadwraethwr
- Grŵp Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (Prifysgol Caerdydd) - Effeithlonrwydd ynni
- Melissa Forster a Kristina Pruett - Her casglu sbwriel
Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Dr Sabrina Cohen-Hatton, Yr Athro Rob Honey, Dr Byron Wilkinson a Phil Butler - Dyfeiswyr
- Luca Pagano, Graham Howe, Peter Charlton, John Hughes a Richard Morgan - Gofal Covid-19
- Tîm Ymchwil a Chyflenwi Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Triniaeth COVID-19
Chwaraeon
- David Smith MBE - Athletwr Paralympaidd
- Hannah Mills OBE - Hwyliwr olympaidd
- Lauren Price - Bocsiwr
Person ifanc
- Benjamin Trewartha - Hyfforddiant Cymorth cyntaf
- Daniel Lewis - Gwaith gwirfoddol
- Makenzy Beard - Arlunydd