Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Yng Nghymru, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw a biliau ynni sy'n mynd yn uwch. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau megis ein Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, sydd bellach yn cynnig taliad gwerth £200, sef dwywaith yr arian a gynigwyd yn flaenorol. Rydym hefyd yn buddsoddi rhagor o arian yn ein Cronfa Cymorth Dewisol i helpu pobl y mae angen cymorth brys arnynt.
Gwyddom fod y rhaglenni cymorth brys hyn yn hollbwysig o ran sicrhau bod modd i aelwydydd incwm isel barhau i ymdopi yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn. Er hynny, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn edrych ar ffyrdd gwahanol o helpu pobl i geisio torri'r cylch tlodi sy'n gallu codi yn rhy aml o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.
Mae diddordeb yn y syniad o incwm sylfaenol wedi bod ar gynnydd eto yn ddiweddar fel ymateb polisi posibl i ganlyniadau'r dirwasgiad economaidd byd-eang a pholisïau cyni Llywodraeth y DU yn sgil hynny, ac yn fwy diweddar mewn ymateb i bandemig COVID-19. Mae diddordeb yn yr angen am ddulliau seiliedig ar asedau ar gyfer ymdrin â lles hefyd wedi tyfu. Bu Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio incwm sylfaenol fel ffordd o fynd i'r afael ag annhegwch ym maes iechyd yn ddiweddar, gan lunio'r ddadl fel mater o gyfiawnder cymdeithasol.
Mae Rhaglen Lywodraethu 2021-26 yn cynnwys ymrwymiad i gynnal cynllun peilot ar ddefnyddio cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru. Mae'r ymrwymiad hwn yn datblygu'r syniad o gyflog cymdeithasol, ac yn adeiladu ar y model cyffredinoliaeth gynyddol sydd wedi bod wrth wraidd gwaith Llywodraeth Cymru ers dros 20 mlynedd. Yng Nghymru, rydym yn edrych ar ôl ein gilydd, ac mae'r cynllun hwn yn adlewyrchu gwerthoedd gofal a thrugaredd sy'n nodweddiadol ohonom fel gwlad.
Rwyf wedi sefydlu tîm trawslywodraethol o swyddogion i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach ac i addasu'r gwersi a ddysgwyd gan wledydd eraill sydd eisoes wedi cyflwyno'r cysyniad o incwm sylfaenol i gyd-destun Cymru. O'r gwaith a wnaed hyd yn hyn, mae'n amlwg nad oes unrhyw gynllun polisi parod na unrhyw enghraifft ‘arferion da’ swyddogol o gynllun incwm sylfaenol y gallwn ei roi ar waith heb drafferth.
Rydym yn bwriadu datblygu a darparu cynllun peilot incwm sylfaenol gyda charfan o bobl ifanc sy'n gadael gofal a fydd yn profi buddion honedig incwm sylfaenol, megis mynd i'r afael â thlodi a diweithdra a gwella iechyd a llesiant ariannol. Bydd y cynllun peilot hwn yn ategu'r buddsoddiad ychwanegol sydd eisoes ar waith i bobl ifanc sy'n gadael gofal, megis y gallu i fanteisio ar ISAs i Bobl Ifanc, Cronfa Dydd Gŵyl Dewi ac esemptiadau’r Dreth Gyngor.
Bydd ein cynllun peilot yn seiliedig ar bedair prif egwyddor, ar sail yr hyn a ddysgwyd o arbrofion incwm sylfaenol a gynhaliwyd ledled y byd yn ogystal â thrafodaethau ag amrywiaeth o arbenigwyr, gan gynnwys y rheini sydd wedi gweithio'n agos gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma'r egwyddorion:
- Ni ddylai neb sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot fod ar ei golled
- Ni ddylai fod unrhyw amodau ar yr incwm a geir
- Dylid talu'r un swm o arian i bawb
- Ni ddylid newid y swm a delir hanner ffordd drwy'r cynllun peilot.
Rydym yn bwriadu cynnig y cyfle i gymryd rhan yn y cynllun peilot hwn i bob person ifanc sy'n gadael gofal sy'n troi'n 18 oed yn ystod cyfnod o 12 mis ym mhob awdurdod lleol. Bydd y cynllun peilot yn dechrau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ac rydym yn rhagweld y bydd dros 500 o bobl ifanc yn gymwys i ymuno ag ef. Ni fydd yn orfodol i neb gymryd rhan yn y cynllun peilot, felly ni fydd yr union niferoedd ar gael tan ar ôl iddo ddechrau. Byddwn yn dechrau cysylltu â'r rhai sy'n gymwys i gymryd rhan yn y cynllun peilot dros y misoedd nesaf i roi'r wybodaeth lawn iddynt, ac i egluro'r hyn y mae'n ei olygu iddynt, sut mae modd iddynt gymryd rhan a pha gymorth ychwanegol a fydd ar gael iddynt. Os bydd yr unigolyn yn penderfynu bryd hynny nad yw am dderbyn taliadau'r cynllun peilot incwm sylfaenol, nid oes angen iddo wneud cais.
Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael taliad gwerth £1600 y mis am gyfnod o 24 mis. Mae CThEM a'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau y bydd y taliad yn gweithio gyda'r system trethi a budd-daliadau ac yn cael ei ystyried yn incwm.
Mae'r swm a gynigir yn sylweddol uwch na'r hyn a gynigwyd i unigolion gan unrhyw gynllun peilot incwm sylfaenol arall a gynhaliwyd yn fyd-eang, ac mae'n gyfwerth yn fras â'r cyflog byw gwirioneddol. Bydd y taliad uwch hwn yn gwneud iawn am unrhyw ostyngiad yn y budd-daliadau i bobl ifanc sy'n gadael gofal, ac mae ganddo'r potensial i arwain at newid cadarnhaol sylweddol yn eu bywydau. Bydd y taliadau hyn yn dechrau yn ystod mis pen-blwydd yr unigolyn yn 18 oed.
Mae'r pandemig wedi effeithio waethaf ar rai o'r grwpiau mwyaf agored i niwed yng Nghymru, yn enwedig pobl ifanc sy'n gadael y system ofal. Gallai cymorth ychwanegol ar gyfer yr oedran hwn ddarparu sylfaen fwy cadarn i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ar gyfer adeiladu eu bywydau fel oedolion. Rydym am helpu'r bobl ifanc hyn i fod yn annibynnol yn ariannol, gan sicrhau y byddant yn ffynnu yn lle goroesi yn unig.
Byddwn yn gweithio gyda'r garfan hon, y mae llawer ohonynt wedi profi anfantais yn ystod eu hieuenctid, i ddeall yr heriau unigryw y maent wedi'u hwynebu. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i weld sut y gallai taliadau arian parod yn ogystal â chynlluniau i aildrefnu systemau eu helpu i fyw y math o fywydau y maent am eu byw. Bydd profiad pobl ifanc sy'n gadael gofal wrth wraidd y gwaith o gynllunio a darparu'r cynllun peilot. Polisi seiliedig ar hawliau yw hwn, a'r gobaith yw y bydd yn cryfhau hawliau pobl ifanc sy'n gadael gofal ac yn cael ei ategu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Byddwn yn datblygu cyfres o fesurau i wella'r modd y caiff y cynllun peilot ei ddarparu ac i asesu ei effaith ar fywydau'r bobl ifanc hynny sy'n cymryd rhan ynddo. Caiff adolygiad clir a chyfres o argymhellion eu llunio ar y cyd â'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot er mwyn dysgu gwersi ohono. Drwy hyn, bydd modd atgynhyrchu'r agweddau hynny ar yr ymyriad a oedd yn llwyddiannus, a dysgu gwersi a fydd o fudd i bobl ifanc sy'n gadael gofal a phoblogaeth ehangach Cymru.
Bu cryn ddiddordeb eisoes yn y cynllun peilot gan y cyhoedd a sefydliadau rhanddeiliaid â buddiant, ac rydym wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd ar gyfer y polisi arloesol hwn. Rydym yn croesawu'r gefnogaeth hon ac yn edrych ymlaen at weld y bobl hynny sy'n awyddus i sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddo yn chwarae rhan weithredol ynddo. Rydym wedi sefydlu Grŵp Cyngor Technegol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Michael Marmot, a fydd yn ein helpu i ddarparu a monitro'r cynllun peilot. Mae'n hanfodol clywed gan amrywiaeth o wahanol leisiau er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu cynllun peilot a fydd yn rhan o becyn cymorth cynhwysfawr i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal wrth iddynt adael y system ofal a phontio i fywyd oedolyn, a'n bod hefyd yn profi rhai o'r honiadau a wnaed ynghylch incwm sylfaenol. Bydd y Grŵp Cyngor Technegol yn darparu mewnbwn hanfodol ac annibynnol i'r gwaith arloesol hwn, a bydd ei arbenigedd yn hollbwysig wrth inni symud ymlaen. Bydd grŵp cyfeirio allanol hefyd yn cefnogi'r cynllun peilot, a fydd yn cynnwys pobl ifanc sydd wedi gadael gofal ymhlith y cynrychiolwyr.
Mae’n ddyddiau cynnar yn y gwaith o ddylunio’r cynllun peilot, ond rwy'n edrych ymlaen at barhau i rannu ein profiadau a'n canlyniadau wrth i'r gwaith pwysig hwn fynd rhagddo.