Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn cael ei chyhoeddi heddiw.
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2021-22 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin.
Yn y gyllideb hon, ceir cynnydd o £2.4bn yng nghynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru. Mae’r gyllideb hefyd yn adlewyrchu’r newidiadau i linellau sylfaen o ganlyniad i gynnwys cyfran Cymru, yn unol â fformiwla Barnett, o’r cyllid a ddyrannwyd yn Lloegr.
Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 15 Mawrth.