Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o fesurau ehangach i helpu pobl â’r argyfwng costau byw, gan gynnwys taliad costau byw o £150 i’w dalu cyn gynted â phosibl a £200 ychwanegol i aelwydydd incwm isel drwy’r Taliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf nesaf.
Mae’r pecyn cyllido yn sylweddol uwch na’r cymorth cyfatebol a roddir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn Lloegr.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, fod y cymorth yn adlewyrchu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i “greu Cymru decach lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.” Fe gyhoeddodd y cyllid wrth iddi gyhoeddi’r gyllideb atodol yn nes ymlaen heddiw (15 Chwefror).
Bydd taliad costau byw o £150 yn cael ei roi i bob aelwyd sy’n byw mewn eiddo yn y band treth gyngor A-D, yn ogystal â’r rhai sy’n derbyn Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ym mhob band. Bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio â’r awdurdodau lleol i roi rhagor o fanylion am sut bydd y cynllun yn cael ei weithredu a bydd y taliadau’n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl.
Yn ychwanegol at y rhaglen £152m hon, bydd £25m ychwanegol yn cael ei ddarparu fel cronfa yn ôl disgresiwn i awdurdodau lleol, sy’n caniatáu i gynghorau ddefnyddio’u gwybodaeth leol i helpu aelwydydd a allai fod yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.
Yn 2022-23, bydd mwy na £100m yn cael ei roi i gryfhau cynlluniau eraill sy’n helpu pobl i fynd i’r afael â chostau byw sydd ar gynnydd. Bydd rhagor o arian yn cael ei roi trwy’r Gronfa Cymorth Dewisol a thrwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, a fydd yn rhoi £200 ychwanegol i gannoedd o filoedd o aelwydydd incwm isel yn nes ymlaen eleni.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Mae pobl yn wynebu argyfwng costau byw real iawn, ac mae angen gweithredu ar frys, mewn ffordd ystyrlon.
“Roedd cynnig y Canghellor ar ddechrau’r mis yn annigonol ac nid oedd yn dod yn agos i’r hyn sydd ei angen ar bobl. Rydym wedi gallu mynd y filltir nesaf i sicrhau bod gan aelwydydd Cymru fwy o help o ran talu biliau, gwresogi tai a rhoi bwyd ar y bwrdd.
“O’i roi gyda’i gilydd, rydym bron yn dyblu maint y cymorth cyfatebol sy’n cael ei roi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’r rheini sydd ei angen fwyaf, gan adlewyrchu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i greu Cymru decach lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”
Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn helpu pobl gyda chostau hanfodol megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio brys. Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn ei gwneud yn bosibl inni barhau i roi taliadau amlach i grŵp ehangach o bobl am flwyddyn arall. Ers mis Mai 2020, mae mwy o bobl wedi gallu hawlio mwy o arian yn amlach drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol, a bydd yr hyblygrwydd ychwanegol hwn bellach yn ei le tan mis Mawrth 2023.
Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn galluogi aelwydydd i hawlio taliad untro o £200 tuag at dalu biliau tanwydd dros y gaeaf. Mae estyn y cynllun yn golygu y gellir rhedeg y cynllun y gaeaf nesaf ac y gall hefyd gyrraedd mwy o aelwydydd.
Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn parhau’n agored yn y flwyddyn ariannol hon, a dylid gwneud cais i gyngor lleol erbyn 28 Chwefror.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael mwy o gymorth, mewn cyfnod sy’n anodd i gymaint o deuluoedd yng Nghymru.
“Wrth i filiau gynyddu a phrisiau godi ac am nad yw cyflogau yn mynd mor bell ag arfer y dyddiau hyn, rydym yn gwybod bod angen help ar bobl. Dyma pam rydym wedi cynnull Uwch-gynhadledd Costau Byw ddydd Iau 17 Chwefror, lle bydd dros gant o gyfranogwyr o ystod eang o bartneriaid cymdeithasol a sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru yn trafod yr argyfwng a’r camau gweithredu rhagweithiol y gallwn eu cymryd i helpu pobl ar draws Cymru.
"Mae mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yn parhau i fod yn flaenoriaeth hanfodol i’r Llywodraeth hon a byddwn yn dal i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i ni.”