Neidio i'r prif gynnwy

Mae llanc yn ei arddegau sy'n dweud iddo fod yn blentyn "hoffus ond direidus" yn breuddwydio am ddefnyddio'i sgiliau arobryn ym maes cadwraeth amgylcheddol, ledled y byd ar daith o ddysgu parhaus.

Gwynfor Harley Jones

Dywed Gwynfor Jones, 18 oed o Dreherbert, nad oedd wedi bwriadu bod yn ddisgybl anodd, ond o oedran ifanc ni fyddai'n gwrando ar ei athrawon, ni fyddai'n gallu canolbwyntio, ac roedd yn aflonydd yn y dosbarth o hyd. 

Newidiodd pethau i Gwynfor pan welodd boster am ddiwrnod agored Croeso i'n Coedwig, sef partneriaeth gymunedol yn Rhondda Fawr Uchaf sy'n cysylltu trigolion â natur, a phenderfynu galw heibio.

Dywedodd: 

"Dim ond 10 oed oeddwn i, ond hyd yn oed mor ifanc â hynny, fe gliciodd rhywbeth i fi. Roedd rhywbeth yn teimlo'n iawn am fod yn yr awyr agored a defnyddio fy nwylo i wneud tasgau ymarferol.  Gwelais y byddwn i'n cael ymuno yn eu gweithgareddau pan fyddwn i'n 13 oed. Cyn gynted ag y gallwn i, mi es i un o'u gwersylloedd yn y coed. O fewn ychydig fisoedd, roeddwn i'n gwirfoddoli yn y gwersylloedd, yn dysgu sgiliau goroesi sylfaenol i blant eraill, yn casglu'r deunyddiau cywir i wneud tân gwersyll priodol, y math yna o beth."

Roedd ei waith gwirfoddoli yn helpu Gwynfor i ymdopi â phwysau yn yr ysgol:   "Doeddwn i ddim yn mynd ati i fod yn niwsans yn fwriadol ac rwy'n credu bod fy athrawon yn gwybod fy mod i'n fachgen hoffus yn y bôn. Er hynny, doeddwn i ddim yn ymddwyn yn dda. Fe wnes i lolian gormod a byddai hynny yn anochel yn fy arwain i drafferthion.

"Roedd fy mherthynas i â gwaith academaidd pur yn un drafferthus. Roedd gorfod eistedd arholiadau'n hunllef i mi.  Byddwn yn treulio dwy awr yn meddwl am y cwestiwn ac erbyn hynny, roedd hi'n rhy hwyr i roi unrhyw atebion ar bapur.

"Pan orfododd y pandemig ni i gyd i aros gartref, roeddwn i'n ofni'r gwaethaf am fy natblygiad i. Roedd mynd â fi allan o ystafell ddosbarth hyd yn oed yn fwy o drychineb i'm gallu i ganolbwyntio, a chan fy mod i'n fachgen swil beth bynnag, roeddwn i'n poeni fy mod i'n mynd i golli'r gallu i integreiddio'n gymdeithasol. Roeddwn yn poeni am fy nyfodol." 

Roedd Gwynfor yn gwybod nad oedd dysgu yn y dosbarth yn mynd i'w helpu i ddatblygu ond roedd ganddo gynllun. Chwiliodd am golegau lleol â chyrsiau a oedd yn cyfuno cymhwyster ag elfen ymarferol iawn. Roedd ei amser gyda Croeso i'n Coedwig wedi rhoi blas ar y maes yr oedd am fynd iddo. Daeth o hyd i'r hyn yr oedd yn chwilio amdano mewn Prentisiaeth Sylfaen mewn Cadwraeth Amgylcheddol trwy Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, a byddai'n parhau i gael cefnogaeth gan Croeso i'n Coedwig.

Bellach mae'n canmol y dull dysgu seiliedig ar waith hwn am ei helpu i feithrin ei sgiliau canolbwyntio – i'r pwynt y cafodd ei gydnabod â gwobr prentisiaeth genedlaethol pan gafodd ei enwi'n Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024. 

Ychwanegodd Gwynfor: 

"Doedd gen i ddim hyder yn yr ysgol. Doeddwn i ddim yn gweld fy hun fel plentyn clyfar.  Ond mae fy mhrentisiaeth wedi fy ngalluogi i gyflawni'r hyn roeddwn i'n meddwl oedd yn amhosib. Mae fy hunan-barch a'm hyder wedi datblygu yn eithriadol, mwy nag y gallwn ddychmygu. Nawr rwy'n rhoi cyflwyniadau i blant mewn ysgolion, i'r cyhoedd ac mewn  digwyddiadau cymunedol yn fy ngwaith. Fyddwn i erioed wedi gallu gwneud hynny o'r blaen." 

Fel gweithiwr dwyieithog, mae'n cefnogi sesiynau therapi coetir, gan weithio ar sail un i un, mae'n gwirfoddoli ddwy noson yr wythnos gyda Plant y Cymoedd, ac mae'n swyddog cymorth cyntaf awyr agored ac yn arweinydd beicio mynydd. 

Ac nid dyma ddiwedd y daith. Mae eisiau mynd ati i ddysgu, i ddatblygu ei sgiliau a'i arbenigedd yn barhaus. Mae ganddo uchelgais i deithio'r byd, gan rannu ei wybodaeth am gadwraeth wrth ddysgu gan arbenigwyr eraill yn y maes er mwyn gweithio tuag at y nod o ddiogelu'r amgylchedd.

Ychwanegodd: 

"Roedd fy mam, Rhian, yn edrych yn bragmatig iawn ar fy mhrofiad yn yr ysgol. Roedd hi bob amser yn dweud 'Fe ddei di'. Roedd fy mrawd hŷn, Padraig, yn gallu canolbwyntio bob  amser. Fe allai fwrw ati a chanolbwyntio, a nawr mae'n ofalwr i'r henoed. Doedd dim rhaid iddi boeni amdano, ond dwi'n siŵr ei bod yn poeni amdanaf i, er nad oedd hi fyth yn dangos hynny. Bellach rwy'n gwybod nad ydi hi'n poeni, ac yn bwysicach fyth, mae hi'n falch iawn ohonof i.

"Pe bai gen i un gair o gyngor i'r bachgen 10 oed, oedd fyth yn llonydd ac yn ei chael hi'n anodd bod yn gartrefol mewn dosbarth a oedd yn llawn o bethau i dynnu ei sylw, mi fyddwn yn dweud 'Bydd yn amyneddgar... ti'n siŵr o gyrraedd yno yn y diwedd. 

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.