Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer casglu data personol o'r diaspora Cymreig.
Cynnwys
Cefndir
Tîm Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am roi Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru ar waith. Un o brif amcanion y strategaeth yw cysylltu â’r diaspora Cymreig ac ennyn eu diddordeb. Rhan bwysig o hynny yw casglu ychydig o ddata personol am aelodau’r diaspora, gyda’u caniatâd.
Dyma’r data y byddwn yn eu casglu:
- eich enw
- cyfeiriad e-bost
- ble ydych chi
- ystod oed
- rhyw
- Diddordebau (E.e. Ymweld â Chymru, busnesau yng Nghymru, etc.)
Bydd yr wybodaeth yn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â'r diaspora Cymreig a rhannu gwybodaeth â nhw am y meysydd y maen nhw wedi dweud sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
Ar ôl i’r wybodaeth ddod i law, Llywodraeth Cymru fydd rheolwr y data a bydd yn ei phrosesu ar sail eich caniatâd.
Beth ydym ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth i:
- hyrwyddo/hysbysebu cynnwys/gwybodaeth berthnasol.
- rhoi gwahoddiadau i ddigwyddiadau rhithwir a go iawn.
- eich annog i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd a mentrau sy’n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid.
Gyda phwy ydyn ni’n rhannu eich gwybodaeth?
Dim ond gyda rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud â’r meysydd sydd o ddiddordeb i chi. Er enghraifft, os ydych wedi mynegi diddordeb mewn teithio i Gymru, byddwn yn rhannu’ch data â Croeso Cymru. Os ydych wedi mynegi diddordeb mewn dysgu mwy am fusnesau yng Nghymru, byddwn yn rhannu’ch data gyda phartner perthnasol. Ni fyddwn yn rhannu’ch data am unrhyw resymau heblaw am y rheini a ddisgrifir uchod.
Am faint y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?
Byddwn yn cadw’r wybodaeth yn ein cronfa ddata am hyd at 120 mis.
Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth
Mae gennych yr hawl i:
- weld y data personol rydyn ni’n eu prosesu amdanoch
- mynnu ein bod ni’n cywiro gwallau yn y data
- yr hawl (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu ein bod yn eu prosesu
- yr hawl i 'ddileu' eich data (pan fydd caniatâd yn sail gyfreithlon)
- cwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a sut y mae’n ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Tîm Cysylltiadau Rhyngwladol: InternationalRelations@gov.wales
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales
Dyma fanylion cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113
Gwefan: ico.gov.uk