Bydd modd i filoedd o bobl yng Nghymru elwa ar feddyginiaeth wrthfeirol newydd a allai leihau’n sylweddol eu risg o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd COVID-19.
Mae’r rhai pobl yn wynebu mwy o risg o fynd yn ddifrifol wael os byddant yn cael prawf positif ar gyfer y feirws. Mae’r rhain yn cynnwys pobl â chanser, pobl â Syndrom Down, pobl sydd wedi cael trawsblaniad a phobl sy’n cymryd meddyginiaethau sy’n gwanhau eu system imiwnedd.
Mae triniaethau COVID newydd wedi bod ar gael yn y gymuned ers mis Rhagfyr i helpu i atal y grŵp hwn o bobl rhag cael salwch mwy difrifol os ydynt yn dal y coronafeirws.
Hyd yma, mae mwy na 700 o gleifion o bob rhan o Gymru wedi cael eu trin yn llwyddiannus â thriniaethau gwrthgyrff monoclonaidd neu'r feddyginiaeth wrthfeirol molnwpirafir
O hyn ymlaen byddant hefyd yn cael cynnig y driniaeth gyfunol newydd nirmatrelfir/ritonafir (Paxlovid). Yn wahanol i’r driniaeth gwrthgyrff monoclonaidd sotromifab, sy’n cael ei rhoi yn ysbyty, bydd modd i Paxlovid gael ei gymryd gartref.
Mae treialon clinigol wedi dangos bod cymryd Paxlovid o fewn pum diwrnod i ddatblygu symptomau COVID yn golygu bod 88 y cant yn llai o risg y bydd angen i’r unigolyn gael ei dderbyn i’r ysbyty.
Bydd Gwasanaeth Gwrthfeirol Cenedlaethol Cymru yn cysylltu â’r rheini sy’n gymwys i gael Paxlovid drwy eu ffonio neu anfon neges destun atynt o fewn 48 awr i ganlyniad positif gael ei gofnodi ar gyfer prawf llif unffordd neu brawf PCR.
Bydd fferyllwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbennig yn gofyn cwestiynau am y meddyginiaethau y mae unigolion yn eu cymryd er mwyn penderfynu pa driniaeth sydd fwyaf priodol iddynt yn glinigol. Os bydd Paxlovid yn driniaeth addas, bydd yn cael ei anfon i gartref yr unigolyn o fewn 24 awr. Os na fydd Paxlovid yn addas, bydd sotrofimab yn parhau i gael ei gynnig.
Mae pobl nad ydynt yn y grŵp risg uchaf yn dal i allu cael y driniaeth wrthfeirol molnwpirafir drwy’r astudiaeth PANORAMIC, a bydd Paxlovid yn cael ei ychwanegu ar yr astudiaeth yn nes ymlaen y mis hwn. Mae’r astudiaeth yn agored i unrhyw un dros 50 oed neu i unigolion 18-49 oed sydd â chyflyrau iechyd penodol sy’n bodoli eisoes. Mae dros 8,000 o bobl ar draws y DU wedi cael eu recriwtio i’r astudiaeth ers iddi ddechrau ym mis Rhagfyr.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
“Dw i’n falch iawn ein bod yn gallu cynyddu nifer y triniaethau sydd ar gael i’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru os byddan nhw’n dal COVID-19.
“Mae meddyginiaethau gwrthfeirol ar eu mwyaf effeithiol pan fydd pobl yn cael eu trin cyn gynted â phosibl, a dyna pam rydyn ni bellach yn cysylltu â phobl ar ôl i ganlyniad positif gael ei gofnodi ar gyfer prawf llif unffordd yn ogystal â phrawf PCR.
“I’r rhan fwyaf o bobl, cael cwrs llawn o’r brechlyn, ac yna ddos atgyfnerthu, sy’n rhoi’r amddiffyniad mwyaf effeithiol yn erbyn salwch difrifol. Serch hynny mae nifer bach o bobl nad ydyn nhw’n cael ymateb cyflawn i’r brechlyn, ac mae triniaethau gwrthfeirol a thriniaethau gwrthgyrff yn cynnig amddiffyniad pellach i’r grŵp hwn.”
Dywedodd Prif Fferyllydd y Gwasanaeth Gwrthfeirol Cenedlaethol, Alana Adams:
“Mae mwy na 700 o bobl yng Nghymru sydd yn y grŵp risg uchel iawn eisoes wedi cael eu trin â thriniaethau gwrthfeirol a thriniaethau gwrthgyrff er mwyn eu hamddiffyn rhag canlyniadau mwyaf difrifol COVID-19.
“Fel arbenigwyr mewn meddyginiaethau, mae gan y fferyllwyr sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Gwrthfeirol Cenedlaethol yr wybodaeth a’r arbenigedd i helpu pobl i benderfynu pa driniaeth yw’r dewis mwyaf priodol iddynt.
“Mae tystiolaeth bod Paxlovid yn cael mwy o effaith na’r meddyginiaethau gwrthfeirol rydyn ni’n eu defnyddio eisoes o ran lleihau nifer y rheini sy’n gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty, ac yn wahanol i driniaethau gwrthgyrff gellir ei gymryd gartref.”