Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Yn unol â'r cytundeb ar gysylltiadau rhyng-sefydliadol, rwy’n adrodd i Aelodau’r Senedd fy mod wedi mynychu Grŵp Rhyng-Weinidogol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 31 Ionawr.
Yn bresennol yn y cyfarfod roedd Mairi Gougeon ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a'r Ynysoedd, Llywodraeth yr Alban; Lorna Slater ASA (Cadeirydd), y Gweinidog dros Sgiliau Gwyrdd, yr Economi Gylchol a Bioamrywiaeth, Llywodraeth yr Alban; Edwin Poots ACD, y Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon; a George Eustice AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth y DU. Roedd yr Arglwydd Malcom Offord, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yr Alban a David TC Davies AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru hefyd yn bresennol.
Yn y cyfarfod trafodwyd cais Llywodraeth yr Alban am eithriad i Ddeddf y Farchnad Fewnol ar gyfer plastigau untro, lle pwysais ar Lywodraeth y DU i roi amserlen ar gyfer penderfyniadau ynghylch y mater hwn. Rhoddodd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon gyflwyniad ar eu hymgynghoriad ar gyfer eu polisïau amaethyddol yn y dyfodol. Buom unwaith eto yn trafod cadwyni cyflenwi a phrinder llafur o fewn sectorau’r Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, lle yr ailadroddais fy mhryderon ynghylch prinder staff milfeddygol ac yn enwedig y rhai sydd eu hangen ar APHA ac ar gyfer archwiliadau ar y ffin ym mhorthladdoedd Cymru yn y dyfodol a hefyd Brotocol Gogledd Iwerddon, lle roeddwn yn pwyso am eglurder ynghylch a fyddai mesurau dros dro mewn porthladdoedd sy’n gwneud busnes ag Iwerddon yn ofynnol.
Roedd nifer o faterion eraill i’w trafod, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi Fframweithiau Cyffredin, Adroddiad Dimbleby, cynigion Coleg Brenhinol y Milfeddygon ynghylch diwygio milfeddygol, tatws hadyd, a'r Mesur Rhyddid Brexit. Bydd y ddau fframwaith a'r Mesur Rhyddid Brexit ar brif agenda cyfarfod nesaf y Grŵp Rhyng-Weinidogol a gaiff ei gynnal ar 21 Mawrth 2022.
Bydd neges yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU yn https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs.