Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) sy’n arwain at statws athro cymwysedig ar gyfer Medi 2020 i Awst 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Addysg Gychwynnol i Athrawon
Ar gyfer 2020/21, Cyngor y Gweithlu Addysg bennodd y dyraniadau ar gyfer cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru. Mae hyn yn seiliedig ar a ydynt yn cael eu hyfforddi i fod yn athrawon cynradd neu athrawon uwchradd, ac a ydynt yn dilyn cyrsiau ôl-radd neu gyrsiau gradd.
Prif bwyntiau
- Roedd nifer yr athrawon ysgol uwchradd newydd o dan hyfforddiant yn is na’r ffigur dyrannu am y seithfed blwyddyn (24% yn is yn 2020/21). Roedd nifer yr athrawon ysgol gynradd newydd o dan hyfforddiant yn is na’r ffigur dyrannu am y tro cyntaf mewn chwe blwyddyn (27%(r) yn uwch yn 2020/21).
- Dechreuodd 1,680 o fyfyrwyr ar gyrsiau AGA yn 2020/21; 920 ar gyrsiau ysgol gynradd a 760 ar gyrsiau ysgol uwchradd.
- Bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr AGA blwyddyn gyntaf yng Nghymru sy’n gallu addysgu yn y Gymraeg am yr ail flwyddyn yn olynol; 455 oedd y ffigur yn 2020/21. Mae hyn yn cyfrif am 27% o gyfanswm nifer y myfyrwyr AGA blwyddyn gyntaf yng Nghymru.
- Gwyddoniaeth, Saesneg a Mathemateg yw’r pynciau mwyaf cyffredin i fyfyrwyr sy’n dechrau ar gyrsiau AGA ysgol uwchradd.
- Roedd 86% o fyfyrwyr AGA newydd a oedd yn hyfforddi yng Nghymru yn byw yng Nghymru cyn dechrau ar eu gradd.
(r) Diwygiedig ar 22 Gorffennaf 2022.
Adroddiadau
Addysg Gychwynnol i Athrawon, Medi 2020 i Awst 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.