Yn y canllaw hwn
11. Gwneud cais
Mae angen i un rhiant arweiniol gwblhau'r cais, hyd yn oed os ydych yn rhannu gwarchodaeth o’r plentyn.
Os ydych yn gwneud cais am fwy nag un plentyn, er enghraifft efeilliaid, ychwanegwch fwy o blant at yr un cais.
Cyn i chi wneud cais
Bydd angen i chi wybod:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeiriad cyflogaeth gyda chod post
- cyfeiriad cyflogaeth eich partner cartref gyda chod post
- yr enillion wythnosol cyfartalog i chi a’ch partner cartref
- y cyflog blynyddol gros i chi a’ch partner cartref