Neidio i'r prif gynnwy

2. Pwy sy'n gymwys

I fod yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru:

  • rhaid eich bod yn byw yng Nghymru
  • ni chaiff incwm gros rhiant fod yn fwy na £100,000 y flwyddyn

Incwm gros yw cyfanswm yr incwm cyn unrhyw ddidyniadau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • cyfraniadau pensiwn
  • yswiriant iechyd
  • cynlluniau aberthu cyflog
  • bonysau neu difidendau blynyddol

Rhaid i chi hefyd fod yn un o'r canlynol:

  • yn gyflogedig ac yn ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy’n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Gyflog Byw.
  • ar Gyflog ac Absenoldeb Statudol (Sâl, Mamolaeth, Tadolaeth, Rhiant, Profedigaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu)
  • wedi cofrestru ar gwrs addysg bellach neu uwch sydd o leiaf 10 wythnos o hyd

Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, rhaid iddo hefyd fodloni un o'r meini prawf cyflogaeth neu addysg hyn.

Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw’n rhiant plentyn) fod yn gymwys ar yr amod eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd rhiant.

I fod yn gymwys yn ystod y tymor a gwyliau ysgol, rhaid i’ch plentyn fod yn un o’r canlynol:

  • 3 oed ac yn gymwys ar gyfer addysg gynnar yn unol â pholisi derbyniadau ysgolion eich awdurdod lleol (fel arfer y tymor ar ôl i’ch plentyn droi’n 3 oed yw hwn ond gall fod yn hwyrach) Os ydych yn gallu cael addysg gynnar cyn hyn ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y Cynnig tan y tymor ar ôl i’ch plentyn droi’n 3
  • 4 oed a ddim yn gymwys i gael lle addysg llawn amser yn yr awdurdod lleol yr ydych yn byw ynddo

Os yw eich plentyn yn 3 neu 4 oed ac yn gymwys i gael addysg amser llawn, rydych chi:

  • ni fydd yn derbyn y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor
  • yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn ystod gwyliau ysgol

Os ydych yn defnyddio’r cynnig gyda darparwr mewn awdurdod lleol gwahanol i’r un yr ydych yn byw ynddo, bydd cymhwysedd ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn cael ei bennu gan bolisi derbyn i ysgolion yr awdurdod lleol yr ydych yn byw ynddo. Felly, os ydych wedi cael cynnig lle mewn ysgol amser llawn yn eich awdurdod lleol ‘cartref’ ni fyddwch bellach yn gallu cael mynediad at gyllid y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor.

Gellir gwneud rhai eithriadau ar gyfer teuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Cysylltwch â’r Llinell Gymorth Genedlaethol am ragor o wybodaeth: 03000 628 628

Cyn gwneud cais, edrychwch i weld a ydych yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.