Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi’r lleoliadau lle bwriedir plannu coedlannau coffa cyntaf Cymru i gofio’r bobl a fu farw yn ystod y pandemig.
Bydd y ddwy goedlan gyntaf yn cael eu creu yn Wrecsam ar ran o Ystad Erddig, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, ac ar safle a ddewiswyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn Brownhill yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.
Bydd trydedd coedlan goffa yn cael ei chreu yn y De-ddwyrain – mae safle'n cael ei ddewis ar hyn o bryd.
Bydd y coedlannau coffa yn symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig ac yn symbol o adfywio ac adnewyddu wrth i'r coedlannau newydd dyfu.
Y gobaith yw y byddan nhw'n fannau coffa lle gall teuluoedd a ffrindiau gofio am anwyliaid a gollwyd.
Byddan nhw hefyd yn fannau lle bydd y cyhoedd yn gallu myfyrio am y pandemig ac am yr effaith y mae wedi'i chael ar fywydau pob un ohonom.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
“Mae bron yn ddwy flynedd ers i bandemig y coronafeirws daro Cymru.
"Mae gormod o bobl wedi cael eu cipio’n rhy fuan gan y feirws ofnadwy ’ma. Byddwn ni’n cofio pob un ohonyn nhw ac yn eu cadw yn ein calonnau a'n meddyliau.
“Bydd y coedlannau hyn yn gofeb barhaol a byw i bawb sydd wedi marw. Byddan nhw hefyd yn symbol o gryfder pobl Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf."
Bydd amrywiaeth o rywogaethau coed yn cael eu plannu yn y coedlannau, er mwyn iddyn nhw fedru ymdopi ag amgylchedd sy'n newid.
Disgwylir i'r plannu ddechrau eleni.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn gweithio gyda chymunedau a theuluoedd lleol i gynllunio a dylunio'r coedlannau.
Yn ôl Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae’n coedwigoedd a'n coetiroedd yn symbolau pwerus a dwys o fywyd, sy’n helpu i wella’n hamgylchedd a bioamrywiaeth ac sy’n cynnig lle i bobl hamddena a myfyrio.
"Ein huchelgais ar gyfer y goedlan goffa hon yw ei bod yn datblygu’n ardal fyw, a fydd yn tyfu, ac a fydd yn fan y gall y gymuned gyfan ei mwynhau. Bydd hefyd yn lle tawel i bobl gael myfyrio wrth inni barhau i ymdopi â’r cyfnod hynod heriol ’ma.
"Rhan o'r daith fydd ymgysylltu â chymunedau lleol a'n partneriaid i gynllunio a dylunio'r goedlan, gan fynd ati ar y cyd â nhw i lunio mannau diogel a hygyrch y bydd pobl o bob oed yn gallu ymweld â nhw am flynyddoedd i ddod er mwyn cofio a myfyrio."
Rydym yn disgwyl i'r safleoedd ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yn y dyfodol, a bydd cyfleoedd i gymunedau lleol helpu i lywio'r gwaith o reoli'r coedlannau.
Dywedodd Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru:
"Ers dros 125 o flynyddoedd, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi darparu mannau lle gall pobl fwynhau natur, harddwch ac awyr iach. Mae hynny wedi teimlo mor berthnasol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ag ar unrhyw adeg yn ein hanes: rydyn ni’n gwybod bod natur wedi bod yn gysur mawr i lawer yn ystod y pandemig, gan ddod â phleser a chysur wrth i bob agwedd arall ar ein bywydau newid.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn falch o gefnogi Llywodraeth Cymru drwy greu un o goedlannau coffa Cymru yn Erddig. Rydyn ni’n edrych ’mlaen at gydweithio â chymunedau a phartneriaid i greu lle arbennig er cof am y rhai a gollwyd oherwydd y coronafeirws. Bydd y goedlan nid yn unig yn fan lle gall pobl gofio a myfyrio, ond bydd hefyd yn fan gwyrdd lle bydd pawb yn gallu parhau i fwynhau’r cyswllt buddiol, sydd gymaint ei angen, â'r byd naturiol."