Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae’r rheoleiddiwr ynni OFGEM heddiw wedi cadarnhau y bydd yn cynyddu’r cap ar dariff ynni domestig gan 54% o 1 Ebrill ymlaen.
Bydd hyn golygu y bydd biliau ynni tanwydd dwbl mewn cartrefi cyffredin yn cynyddu i bron i £2,000 y flwyddyn. Bydd hwn yn gyfnod o bryder mawr i bobl.
Mae biliau ynni wedi bod yn cyfrannu’n sylweddol at yr argyfwng costau byw sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd. Prin yw’r arwyddion bod pethau’n gwella.
Mae’r cap ar brisiau ynni, a godwyd ym mis Hydref, wedi helpu i warchod cartrefi rhag rhywfaint o effeithiau gwaethaf y cynnydd mewn costau yn y farchnad nwy a thrydan domestig dros fisoedd y gaeaf, cynnydd sydd wedi achosi i nifer mawr o gyflenwyr fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Nid yw hynny, fodd bynnag, wedi bod yn ddigon i warchod cartrefi, yn enwedig cartrefi ar incwm isel, rhag costau ynni sy’n cynyddu o hyd. Mae National Energy Action wedi cyfrifo bod tua 22,500 yn rhagor o gartrefi yng Nghymru wedi wynebu tlodi tanwydd oherwydd y cynnydd ym mis Hydref.
Mae perygl y bydd degau o filoedd yn rhagor o deuluoedd yn dioddef o dlodi tanwydd yn sgil y cynnydd pellach hwn yn y cap prisiau gan OFGEM ym mis Ebrill.
Mae’n ymddangos mai ateb brys Llywodraeth y DU yw llwytho mwy fyth o gostau ar filiau defnyddwyr. Bydd ei chynllun ad-dalu biliau ynni yn darparu gostyngiad o £200 ar filiau trydan yn unig o fis Hydref ymlaen, a fydd wedyn yn cael ei hawlio’n ôl yn awtomatig o filiau pobl mewn rhandaliadau gwerth £40 dros y pum mlynedd nesaf.
Mae hefyd wedi cyhoeddi ad-daliad gwerth £150 ar y dreth gyngor i gartrefi ym mandiau A i D yn Lloegr o fis Ebrill ymlaen. Bydd Cymru yn cael cyllid canlyniadol yn sgil y cyhoeddiad hwn. Rydym yn ystyried sut mae anelu’r cymorth hwn at y rhai sydd ei angen fwyaf. Bydd cyhoeddiad arall yn cael ei wneud maes o law.
Rydym yn gwneud popeth a allwn i gefnogi pobl Cymru â’r argyfwng costau byw a biliau ynni cynyddol, gan gynnwys dyblu taliad y Cymorth Tanwydd Gaeaf i £200 a buddsoddi rhagor yn ein Cronfa Cymorth Dewisol i helpu pobl y mae arnynt angen cymorth brys.
Mae’n bryd i Lywodraeth y DU gymryd camau i helpu cartrefi a mynd i’r afael â’r helbul yn y marchnadoedd ynni domestig.
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau wedi ysgrifennu ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn Llywodraeth y DU, gan nodi cyfres o gamau gweithredu y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd i helpu cartrefi â’u biliau ynni:
- Dileu’r costau polisi cymdeithasol ar filiau ynni cartrefi a’u symud i drethi cyffredinol. Mae’r rhain yn drethi annheg ac yn golygu ein bod yn cymryd cam yn ôl;
- Cyflwyno cap tariff gwahaniaethol ar ynni domestig neu dariff ynni cymdeithasol sydd â’r nod o gefnogi cartrefi o incwm isel yn well;
- Darparu rhagor o gymorth drwy’r cynllun Gostyngiad Cartrefi Clyd a chynlluniau eraill sy’n cynnig taliadau tanwydd dros fisoedd y gaeaf;
- Ehangu’r gallu sydd gan gyflenwyr i ddileu dyledion ynni cartrefi a chyflwyno elfen ‘cyllid cyfatebol’ i’r cynllun, gyda Llywodraeth y DU yn talu’r costau hyn;
- Cynyddu cyfraddau Lwfans Tai Lleol.
Yn anffodus, nid ydym wedi cael ymateb i’n llythyr a anfonwyd bron i fis yn ôl.
Rydym hefyd yn cefnogi galwadau am dreth ffawdelw ar gwmnïau olew a nwy Môr y Gogledd fel ffordd o helpu pobl drwy’r argyfwng costau byw.
Ni fydd gwaith Llywodraeth Cymru ar ei phen ei hun yn ddigon i roi diwedd ar yr argyfwng costau ynni a’r argyfwng costau byw ehangach. Rydym wedi mynegi ein pryderon i Lywodraeth y DU a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Mae angen gweithredu ar frys i gynorthwyo pobl â’r prisiau ynni uchel hyn.