Mae'r papur hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad mewnol ar raddfa fach o Gynllun Peilot Cymorth Diogelu Ychwanegol Cwm Taf Morgannwg.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Amcanion y cynllun peilot oedd deall a allai gweinyddu cynnig cymorth COVID annog pobl i ymgysylltu â phrofion cymunedol a chael prawf COVID asymptomatig, ac a fyddai darparu cymorth ychwanegol i breswylwyr yn eu galluogi i lynu wrth ofynion hunan-ynysu'r llywodraeth. Gwnaeth yr adolygiad mewnol hwn gynnwys dadansoddiad o ddata arolwg a gasglwyd gan sefydliadau partner a oedd yn gyfrifol am weinyddu'r cynllun a phreswylwyr a oedd wedi defnyddio'r cynllun cymorth.
Gellir crynhoi casgliadau'r adolygiad graddfa fach hwn fel a ganlyn.
- Roedd y rhan fwyaf o'r trigolion a oedd yn defnyddio'r cynllun Cymorth Diogelu Ychwanegol yn gwneud hynny yn dilyn mynychu apwyntiad mewn prif ganolfan brofi a chlywed am y cymorth a oedd ar gael yn dilyn galwad ffôn gan y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu.
- Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai ymwybyddiaeth o'r cynllun Cymorth Diogelu Ychwanegol ymysg y nifer fach o ymatebwyr a oedd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun a oedd wedi cael canlyniad positif am COVID-19 annog trigolion i ymweld â chanolfan brofi galw i mewn yn y gymuned i gael prawf COVID-19.
- Roedd y rhan fwyaf o'r trigolion a ymatebodd i'r arolwg yn teimlo'n hyderus yn eu gallu i hunanynysu dros yr holl gyfnod. Fodd bynnag, mae'r data yn dangos bod angen rhagor o gymorth i hunanynysu ar y rhai a ddywedodd fod lefel eu hyder yn eu gallu i hunanynysu yn llai na'r cyfartaledd, sy'n awgrymu y gallai anghenion unigol fod yn ystyriaeth bwysig wrth gynllunio'r cynnwys a'r dull o gyflwyno cynlluniau yn y dyfodol.
- Mae rhywfaint o dystiolaeth gan sefydliadau partner a nifer fach o drigolion yn amlygu rhai heriau gyda'r cynllun, gan gynnwys diffyg gwaith hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth, ac anawsterau o ran rhannu gwybodaeth, a allai fod wedi effeithio ar effeithlonrwydd y cynllun.
- Mae ymatebion i'r arolygon gan sefydliadau partner a'r rhan fwyaf o drigolion yn dangos bod y cynllun wedi cael derbyniad cadarnhaol gan gyfranogwyr a'i fod wedi'u cynorthwyo i hunanynysu.
Adroddiadau
Cynllun Peilot Cymorth Diogelu Ychwanegol Cwm Taf Morgannwg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Nina Prosser
Rhif ffôn: 0300 025 5866
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.