Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd
Bydd aelodau'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol ein bod yn rhoi caniatâd i'r Ysgrifennydd Gwladol osod Rheoliad Gwaharddiadau Ifori (Esemptiad) (Proses a Gweithdrefn) 2021 ar 3 Chwefror 2022. Bydd y rheoliadau yma yn dod i rym ar 24 Chwefror 2022.
Roedd caniatâd wedi’i ofyn gan Victoria Prentis MP, Gweinidog am Ffermio, Pysgodfeydd a Bwyd i wneud y rheoliadau yma, fydd yn gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae Rheoliad Gwaharddiadau Ifori (Esemptiadau) (Proses a Gweithdrefn) 2021 yn nodi yn offeryn statudol (OS), sy'n gwneud darpariaeth fanwl ar gyfer gweithredu'r prosesau eithrio o dan y Ddeddf. Bydd hyn yn berthnasol i'r DU cyfan a bydd yn caniatáu i bersonau gofrestru eitemau sy'n cynnwys ifori i'w heithrio rhag y gwaharddiad ar werthiannau ifori yn y pen draw, yn amodol ar feini prawf penodol.
Mae Rheoliadau Deddf Ifori (Cychwyn Rhif 1) 2021 yn cyd-fynd â'r Rheoliadau Gwaharddiadau. Bydd y rheoliadau hyn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig Deddf Ifori (2018), sy'n ymdrin â chofrestru ac eithrio ar 1 Chwefror 2022 (ar gyfer pwerau gwneud rheoliadau) a 24 Chwefror 2022 at bob diben sy'n weddill.
Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau Gwaharddiadau yn cynnwys rhestr o Sefydliadau Rhagnodedig, sef sefydliadau (amgueddfeydd yn bennaf) sydd wedi'u hawdurdodi i asesu eitemau y gwnaed ceisiadau am dystysgrifau eithrio rhag gwaharddiad gwerthu o dan y Ddeddf ar eu cyfer.
Ni fydd y Rheoliadau Gwaharddiadau yn dechrau gwahardd gwerthiannau ifori yn y DU. Bydd y gwaharddiad gwerthiannau ifori yn dod i rym yn llawn yn wanwyn 2022.