Mae bron i £11 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn ‘canolfan ragoriaeth’ ar gyfer canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr mewn ymgais i wella gofal i gleifion.
Bydd y buddsoddiad yn dwyn gwasanaethau ac arbenigwyr o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ynghyd i ddarparu gofal i gleifion allanol, ymyriadau diagnostig a llawdriniaethau ar gyfer canser y fron.
Bydd y timau clinigol o Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent yn dod ynghyd i ddarparu gwasanaeth mwy gwydn ac effeithiol, mewn cyfleuster pwrpasol, a fydd yn diwallu anghenion pobl Gwent yn well.
Wrth siarad ar Ddiwrnod Canser y Byd heddiw (4 Chwefror), dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fod y buddsoddiad yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau canser a helpu byrddau iechyd i drawsnewid gwasanaethau clinigol. Y gobaith yw y bydd gwella effeithlonrwydd gwasanaethau yn helpu ymdrechion i leihau amseroedd aros ar gyfer gofal canser.
Daw hyn wrth i’r data diweddaraf am berfformiad a gweithgarwch y GIG ddangos bod lefelau gweithgarwch mewn gwasanaethau canser wedi cynyddu ym mis Tachwedd. Gwelwyd bod nifer y cleifion sydd wedi cael diagnosis newydd o ganser ac wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, wedi cynyddu i’r lefel uchaf ers i ddata cymaradwy ddechrau cael eu casglu ym mis Mehefin 2019.
Yn ogystal â hyn, cynyddodd nifer y cleifion a gafodd wybod nad oes ganddynt ganser, o’i gymharu â’r mis blaenorol, i’r ail lefel uchaf ers i’r data hyn ddechrau cael eu casglu ym mis Rhagfyr 2020.
Bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn gwella ansawdd a diogelwch y gofal a gaiff cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal y fron; yn darparu model gofal ar gyfer gwasanaethau gofal y fron sy’n gynaliadwy ac yn hyblyg i ymateb i anghenion yn y dyfodol; yn manteisio i’r eithaf ar ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael; ac yn hyrwyddo diagnosis a thriniaeth yn unol ag arferion gorau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
Bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn golygu y bydd gan gleifion yng Ngwent fynediad gwell at ofal o ansawdd uchel a bod modd ymdrin â mwy o bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser y fron fel achosion dydd, ac felly osgoi derbyniadau i’r ysbyty.
Wrth inni nodi Diwrnod Canser y Byd, mae’n gyfle i fyfyrio ar yr effaith fawr y mae canser yn ei chael ar ein cymdeithas a thynnu sylw at y buddsoddiadau pwysig rydym yn eu gwneud i sicrhau gofal gwell i gleifion. Byddwn yn parhau i sicrhau bod gwasanaethau canser yn cael y sylw y maen nhw’n eu haeddu wrth inni ddod allan o’r pandemig.
Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Glyn Jones:
Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gyllido’r cyfleuster newydd anhygoel hwn, a fydd yn garreg filltir allweddol arall yn ein strategaeth Dyfodol Clinigol. Gyda’r ganolfan newydd yn gweithredu fel ‘canolfan ragoriaeth’ ar gyfer gwasanaethau canser y fron, bydd ein clinigwyr arbenigol wedi’u lleoli’n ganolog mewn cyfleuster pwrpasol. Yno byddan nhw’n darparu gofal arbenigol i gleifion sydd â chanser y fron mewn un lle. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith o adeiladu’r cyfleuster yn datblygu dros y misoedd nesaf.
Dywedodd Mia Rosenblatt, Cyfarwyddwr Cyswllt Polisi, Tystiolaeth a Dylanwadu Breast Cancer Now, fod y buddsoddiad o bron i £11m yn ‘newyddion gwych’:
Mae buddsoddiadau fel yr un yma yn hanfodol i helpu i gyflawni uchelgeisiau i wella profiadau a chanlyniadau i gleifion. Mae hefyd yn gyfle pwysig i fynd i’r afael â materion ehangach o ran recriwtio a chadw staff ar draws y gweithlu canser a diogelu gwasanaethau canser ar adeg pan maen nhw’n wynebu heriau enfawr wrth ddelio â’r ôl-groniad o drin pobl sy’n cael diagnosis o ganser y fron.