Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 25 Tachwedd 2021
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 25 Tachwedd 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cydgadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Comisiynwyr
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Michael Marmot
- Lauren McEvatt
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Eitem 4
- Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
- Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru
- Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
- Piers Bisson, Cyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Chyfiawnder
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Chris Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Chyfiawnder
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
- Carys Evans, Cynghorydd
- Heulwen Vaughan, Ysgrifennydd i'r Comisiwn
- Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
- Tessa Hajilambi, Rheolwr y Swyddfa
Eitem 1: Croeso gan y Cydgadeiryddion
Croesawodd y Cydgadeiryddion y Comisiynwyr i gyfarfod cyntaf y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Eitem 2: Cyflwyniadau
Cyflwynodd y Comisiynwyr a'r swyddogion eu hunain yn fyr.
Eitem 3: Yr Amcanion Eang a'r Rhaglen Waith
Nododd y Comisiynwyr yr amcanion eang a thrafod dull y Comisiwn ar gyfer datblygu ei raglen waith.
Eitem 4: Prif Weinidog Cymru (Mark Drakeford AS), Arweinydd Plaid Cymru (Adam Price AS) a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (Mick Antoniw AS)
Ymunodd y Prif Weinidog, Arweinydd Plaid Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol â'r cyfarfod am gyfnod byr. Diolchasant i'r Comisiynwyr am ymgymryd â'u rolau a nodi'n fras eu hamcanion wrth sefydlu'r Comisiwn.
Eitem 5: Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Trafododd y Comisiwn ei ddull o gyfathrebu ac ymgysylltu a sut fyddai orau i ddatblygu strategaeth ymgysylltu gynhwysol a phellgyrhaeddol.
Eitem 6: Ffyrdd o Weithio
Trafododd y Comisiwn y trefniadau ymarferol ar gyfer ei waith. Cytunodd y Comisiwn y byddai'n cyhoeddi cofnodion pob cyfarfod ac y byddai'r cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal yn rhithwir am y tro.
Eitem 7: Unrhyw fater arall
Ni chodwyd unrhyw fater arall. Diolchodd y Cydgadeiryddion i'r Comisiynwyr am eu hamser a nodwyd bod y cyfarfod wedi bod yn un cynhyrchiol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: