Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet  (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Matt Wellington, Pennaeth Polisi’r Gyllideb a Chyflawni
  • Andy Fraser, Dirprwy Gyfarwyddwr Dŵr a Llifogydd
  • Lori Frater,  Pennaeth y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr y Rhaglen Gyflawni  ar gyfer y GIG

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 2, 6, 8 a 9 Rhagfyr.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi y byddai’r sesiynau’r wythnos honno’n cael eu cynnal yn rhithiol, ac felly na fyddai unrhyw seibiannau yn ystod y trafodion. Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 8:10pm ddydd Mawrth a thua 6pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Y Rhaglen Lywodraethu

3.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi’r cynnydd o ran gweithredu’r Rhaglen Lywodraethu.

3.2 Roedd y Rhaglen Lywodraethu wedi cael ei diweddaru i adlewyrchu’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Fe’i cyhoeddwyd yr wythnos flaenorol.

3.3 Roedd y gwaith o’i gweithredu wedi dechrau ym mhob un o’r meysydd, ac roedd tystiolaeth o rai llwyddiannau cynnar.

Eitem 4: Pecyn y Gyllideb Ddrafft 2022-23

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r dyraniadau lefel MEG ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2022-23, ynghyd â’r cynlluniau gwariant dangosol tair blynedd.

4.2 Roedd y papur yn ffrwyth cwblhau rhaglen o weithgarwch dwys, cymhleth a heriol wrth baratoi i osod y Gyllideb Ddrafft yr wythnos ganlynol. Bu hyn yn arbennig o heriol oherwydd y setliad ariannol llym, ac roedd y sefyllfa’n fwy anodd byth oherwydd yr ansicrwydd parhaus sy’n cael ei greu gan y pandemig.

4.3 Serch hynny, roedd gwerthoedd y Llywodraeth, sef cyfiawnder amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, a’r angen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, yn sail gadarn i’r Gyllideb Ddrafft ei hun. Byddai’r Llywodraeth yn gallu cyflawni ei huchelgais i sicrhau bod Cymru yn wlad gryfach, decach, a gwyrddach fel y’i disgrifir yn y Rhaglen Lywodraethu.

4.4 Roedd y setliad tair blynedd cyntaf ers 2015 wedi galluogi’r Llywodraeth i gynllunio ar gyfer y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â gwariant cyfalaf a’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru a fyddai’n cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â’r Gyllideb.

4.5 Byddai’r Gyllideb yn darparu hyblygrwydd i’r Llywodraeth allu ymateb i ansicrwydd a difrifoldeb Omicron, a byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn y negeseuon.

4.6 Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gadarnhau manylion cyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr Gofal Cymdeithasol yr wythnos ganlynol, gan gyflawni ymrwymiad pwysig yn y Rhaglen Lywodraethu.

4.7 Hefyd byddai cyhoeddiad ar ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer 2022-23, a fyddai’n darparu sicrwydd i lawer o fusnesau a sectorau yng Nghymru, yn enwedig y rheini a oedd wedi dioddef effeithiau mwyaf uniongyrchol y pandemig. Byddai holl drethdalwyr manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn cael hyd at 50% o ryddhad ardrethi annomestig drwy gydol 2022-23 – gyda chap o £110,000 ar gyfer pob trethdalwr. Byddai’r lluosydd ardrethi annomestig yn parhau wedi ei rewi.

4.8 Roedd y papur hefyd yn cynnwys manylion llawn y cyllid a ddyrannwyd i un deg tri o feysydd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Roedd hyn yn cynnwys cyllid sylweddol ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim, gofal plant, a buddsoddiad mawr o gyllid cyfalaf – dros hanner biliwn hyd at 2024-25 er mwyn cyflawni nifer o ymrwymiadau.

4.9 Hefyd, yn dilyn trafodaethau cyllideb gyda Jane Dodds AS, roedd y Gweinidog Cyllid wedi cytuno i greu cronfa o £20m i gefnogi plant sy'n derbyn gofal.

4.10 Croesawodd y Cabinet y paper gan roi ar gofnod ei ddiolch i bawb a oedd wedi cyfrannu at y gwaith o baratoi’r Gyllideb, tra eu bod ar yr un pryd yn ymateb i heriau’r pandemig, yng nghyd-destun canlyniadau’r Adolygiad o Wariant a pharatoi Rhaglen Lywodraethu newydd. Roedd y Gweinidogion hefyd yn gwerthfawrogi’r ffaith bod cyflog byw gwirioneddol wedi cael ei gyflwyno ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, a fyddai’n darparu sefydlogrwydd i’r sector hwnnw.

4.11 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Unrhyw fater arall – y diweddaraf am COVID-19: Omicron

5.1 Amlinellodd y Prif Weinidog y broses adolygu wythnosol ar gyfer Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5), a fyddai’n cael ei chwblhau mewn cyfarfod o’r Cabinet ddydd Iau. Byddai papur ddydd Mercher yn amlinellu’r dystiolaeth ddiweddaraf am ledaeniad Omicron, ynghyd â modelu ei drywyddau posibl a’r cyngor clinigol.

5.2 Heb y cymorth ariannol ychwanegol oddi wrth Drysorlys y DU, byddai ymateb y Llywodraeth yn gyfyngedig i’r cyfyngiadau a fyddai’n cael yr effaith fwyaf, ac a oedd â’r gost leiaf yn gysylltiedig â nhw.

5.3 Trafododd y Gweinidogion argaeledd profion llif unffordd, gan nodi bod 21 miliwn ohonynt ar gael i bobl Cymru. Y broblem oedd sicrhau bod gan fferyllfeydd gyflenwadau digonol. Roedd Llywodraeth y DU wedi gosod archeb i gael 200 miliwn yn rhagor o becynnau, a byddai Cymru yn cael ei siâr arferol. Dylai unigolion gael eu hannog i ddefnyddio’r profion a oedd ganddynt ar y pryd, gan osgoi’r temtasiwn i gasglu pentwr mawr ohonynt.