Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Gosodir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU. Mae'n ymwneud â darpariaethau penodol ym Mil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol (y Bil), a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Nid oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 ar gyfer y darpariaethau hyn am nad oes gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â nhw. Mae pensiynau galwedigaethol yn fater sydd wedi’i gadw. Ond Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am bensiynau diffoddwyr tân yng Nghymru ac mae ganddynt swyddogaethau gweithredol yn hynny o beth.
Cyflwynwyd y Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 19 Gorffennaf 2021. Ar 12 Awst a 6 Rhagfyr gosodais ddatganiadau ysgrifenedig, yn unol â Rheol Sefydlog 30. Roedd y datganiadau ysgrifenedig yn nodi’r darpariaethau yn y Bil ac yn nodi’r gwelliannau dilynol i’r Bil, sy'n newid neu’n effeithio ar swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chynlluniau pensiwn diffoddwyr tân yng Nghymru . Mae'r datganiadau ysgrifenedig hynny i’w gweld yn:
Datganiad Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
Datganiad Ysgrifenedig: Y Bil Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol
Dylid darllen y datganiad ysgrifenedig hwn yn yr un cyd-destun â'm datganiad cyntaf, oedd yn nodi diben a nodau'r Bil yn fanwl. Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am welliannau pellach Llywodraeth y DU i'r Bil, a gyhoeddwyd ar 7 Rhagfyr 2021, sydd i'w gweld yn:
Public Service Pensions and Judicial Offices Bill
Cyflwynwyd y gwelliannau ar 6 Ionawr ac 20 Ionawr i'w hystyried yng Nghyfnod y Pwyllgorau yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae'r holl welliannau hyn, a nodir isod, yn ehangu swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â phensiynau diffoddwyr tân; nid ydynt yn cyfyngu arnynt nac yn eu dileu. Nid yw’r gwelliannau eraill a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod hwn yn effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn y maes hwn.
Diwygiadau perthnasol i’r darpariaethau yn y Bil
Cymal 22 (Pwerau pellach i wneud darpariaeth ynghylch achosion arbennig)
(Cymal 20 yn y Bil a gyflwynwyd)
Byddai cymal 22 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â chynllun Pennod 1 sy'n gwneud darpariaeth arall ynghylch nifer o feysydd lle y gallai fod angen i gynlluniau gymryd camau i sicrhau bod cynlluniau'n gweithredu yn ôl y bwriad. Mae hyn er mwyn sicrhau bod aelodau'n cael y buddion cywir o ran etifeddiaeth neu fuddion newydd mewn perthynas â'u gwasanaeth adferadwy.
Mae'r gwelliannau’n ychwanegu paragraffau newydd i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru sicrhau y gellir gwneud darpariaeth briodol ynghylch y buddion sy'n daladwy i blant sy'n goroesi aelod ymadawedig nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd ag oedolyn sy'n goroesi.
Cymal 86 (Gwelliannau yn ymwneud â therfyn costau cyflogwr)
(Cymal 80 yn y Bil a gyflwynwyd)
Byddai dau gymal newydd yn cymryd lle Cymal 86 o'r Bil a gyflwynwyd, sy'n diwygio'r mecanwaith presennol ar gyfer rheoli cost cynlluniau pensiwn i gyflogwyr (y "terfyn costau i gyflogwyr”).
Mae'r cymal newydd cyntaf (gwelliannau yn ymwneud â’r terfyn costau i gyflogwyr) yn cynnwys nifer o newidiadau ychwanegol i'r drefn capio costau ar gyfer cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys yn benodol ddarpariaeth ar gyfer yr archwiliad economaidd sydd i'w gyflwyno ar gyfer prisiadau 2020 a’r rhai sy’n dilyn.
Mae'r ail Gymal newydd (Gweithredu terfyn costau i gyflogwyr mewn perthynas â phrisiad 2016/17) yn atgynhyrchu, gyda newidiadau technegol, effaith is-adrannau (4), (8) a (9) o gymal 86 fel y mae ar hyn o bryd yn y Bil.
Y rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn
Mae'r Bil yn ceisio unioni’r gwahaniaethu ar sail oed ar draws cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus drwy roi pob aelod cymwys yn ôl yn y sefyllfa y byddai wedi bod ynddi pe na bai'r gwahaniaethu erioed wedi digwydd, am “gyfnod unioni” o Ebrill 2015 tan fis Mawrth 2022. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd pob aelod yn ddi-wahân yn ymuno â Chynllun 2015. Mae'r cymalau newydd yn rhoi mwy o eglurder a manylion i sicrhau bod buddion sy'n daladwy i blant sy'n goroesi aelodau yn gweithio fel y dylent.
Mae'r Bil hefyd yn hepgor y gofyn i weithredu ar unrhyw achos o dorri’r terfyn costau prisio pensiwn 2016 sy'n digwydd o ganlyniad i ymgorffori costau unioni o fewn y broses brisio. Heb hynny, mae'n debygol y byddai'r prisiad fel arall yn arwain at gynnydd sylweddol iawn yng nghyfraniadau aelodau, neu ostyngiadau ym muddion y cynllun. Mae'r cymalau newydd a gyflwynir bellach yn gwneud newidiadau technegol i'r darpariaethau hynny.
Rwyf o'r farn ei bod yn briodol i'r darpariaethau diwygiedig hyn fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru a'i bod yn briodol iddynt gael eu cynnwys yn y Bil hwn.