Melissa Forster a Kristina Pruett
Enwebiad ar gyfer gwobr Pencampwr yr Amgylchedd
Ar ddiwedd 2020, ar ôl cael eu siomi gan y sbwriel yn eu hamgylchedd lleol, gwnaeth Melissa Forster a Kristina Pruett addunedu y byddent yn codi sbwriel bob dydd yn ystod 2021. Cafodd eu hadduned ei alw'n Her Codi Sbwriel (‘Litter Pick Challenge’). Drwy eu hangerdd a'u hymroddiad, gwnaeth yr hyn a ddechreuodd yn wreiddiol fel her bersonol i wella eu cymuned leol ddatblygu yn sefydliad gweithredu cymunedol gyda chysylltiadau ag ardaloedd eraill o Gymru, y DU a thramor.
Yn ogystal ag arwain y gwaith o godi sbwriel yn eu cymuned, maent wedi clirio tipiau anghyfreithlon ac wedi cael gwared ar wastraff a malurion o Afon Taf, a oedd yn eu hatgoffa o lifogydd dinistriol 2020.
Maent yn ceisio ailgylchu cymaint ag y gallant drwy uwchgylchu deunyddiau, creu gwaith celf neu gydweithio â chanolfannau ailgylchu metel lleol. Maent wedi trefnu ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, gan gynnwys cerdyn post a gynlluniwyd gan ddefnyddio deunyddiau y daethpwyd o hyd iddynt wrth godi sbwriel, i ganfasio busnesau yn Rhondda Cynon Taf am faterion sy'n ymwneud â phlastigau untro. Maent wedi gweithio gyda'r Post Brenhinol i ddatblygu strategaethau i leihau nifer y bandiau elastig a gafodd eu taflu yn yr amgylchedd. Yn ogystal, maent wedi rheoli digwyddiadau cymunedol ar raddfa fawr fel rhan o’r Wythnos Fawr Werdd a COP26.
Wedi'i leoli'n bennaf ym Mhontypridd, yn ystod yr her maent wedi mynd â’u camau gweithredu amgylcheddol ymhellach i ffwrdd yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod 2021 fe wnaethon nhw dynnu dros 1,000 o fagiau sbwriel o'r amgylchedd.
Fodd bynnag, lle bynnag maent yn mynd, mae eu teclyn codi sbwriel yn mynd hefyd. Er bod yr her gychwynnol ar ben, maent yn parhau i weithio tuag at eu nod o wella'r amgylchedd ac ennyn diddordeb y gymuned.