Berwyn Rowlands
Gwobr Diwylliant enillydd 2022
Cynhyrchydd teledu a ffilm yw Berwyn Rowlands, o Ynys Môn, ac ef yw’r Cyfarwyddwr Gŵyl ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Gwobr Iris - LHDT + Caerdydd sy’n dyfarnu’r wobr fwyaf yn y byd ar gyfer ffilm fer.
Mae Berwyn, sydd wedi bod yn hoff iawn o ffilmiau ers yn ifanc iawn wedi cynhyrchu ffilmiau ar gyfer sinema a theledu yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys Llety Piod (UK), sy’n Ffilm Deledu 90 munud o hyd yn cynnwys Bill Nighy.
Ym 1997, penodwyd Berwyn yn Brif Weithredwr cyntaf Sgrîn: Asiantaeth y Cyfryngau yng Nghymru. Arweiniodd y broses o sefydlu Archif Ffilmiau a Sŵn Cenedlaethol Cymru a chadarnhaodd wasanaeth lleoliad Cymru gyfan - Comisiwn Sgrîn Cymru – a sefydlwyd yn 2002.
Ym 1989, trefnodd ei ŵyl ffilmiau gyhoeddus gyntaf yn Aberystwyth a alwyd wedyn yn Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru ac roedd yn cynnwys dathliad penwythnos o ffilm LHDT.
Yn 2006, sefydlodd Wobr Iris - sef y wobr fwyaf yn y byd ar gyfer ffilm fer LHDT gan gynnig £30,000 i’r enillydd. Mae ffilmiau Gwobr Iris yn cynnwys Burger a Followers a ddangoswyd yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance. Yn 2016, dathlodd yr ŵyl ei phen-blwydd yn 10 oed a chafodd ei chydnabod gan Bafta fel gŵyl rhestr “A”. Mae wedi ymddangos yn y rhestr o 50 o’r gwyliau ffilmiau gorau yn y byd gan Movie Maker Magazine am bedair blynedd. Gwnaeth y Frenhines gydnabod Gwobr Iris mewn derbyniad ar gyfer Diwydiant Ffilmiau Prydain yn 2013.
Yn ystod pandemig y coronafeirws yn 2020, sicrhaodd Berwyn fod yr ŵyl yn parhau ac yn symud ar-lein am ddim, gyda mwy na 84,000 o bobl yn y DU yn gwylio ffilmiau’r ŵyl.
Mae Berwyn yn gweithio gydag Iris i hyrwyddo effaith ddiwylliannol Cymru ledled y byd ac erbyn hyn mae 25 o wyliau partner mewn 25 o wledydd o gwmpas y byd.