Ysgol Esceifiog
Enwebiad ar gyfer gwobr Gweithwyr hanfodol (allweddol)
Mae Ysgol Esceifiog yn Ynys Môn wedi cael ei henwi ar restr fer ar gyfer Gwobr Dewi Sant am y cymorth a gynigiodd staff i deulu yn eu hysgol ar ôl i un o’u disgyblion gael diagnosis terfynol.
Ym mis Hydref 2020, cafodd ddisgybl yn y dosbarth derbyn ddiagnosis bod ganddi diwmor ar yr ymennydd a DIPG (Diffuse Intrinsic Pontine Glioma), sy’n salwch angheuol. Ers y diwrnod hwnnw, cefnogodd yr ysgol Ania a’i chwaer 7 mlwydd oed a gwnaethant bopeth a allent i sicrhau bod Ania’n cael ei chefnogi’n yr ysgol yn ogystal â chefnogi disgyblion eraill yr effeithiwyd arnynt gan salwch eu ffrind. Er gwaethaf heriau pandemig Covid, chwaraeodd yr ysgol ran fawr wrth helpu i greu atgofion y byddai’n aros â chwaer Ania a’i ffrindiau am byth. Roedd Ania’n hoff iawn o ddeinosoriaid a diolch i’r ysgol, cafodd gyfle i lunio deinasor ei hun, sy’n sefyll wrth fynedfa ystafell ddosbarth allanol yr ysgol, Tý Rex.
Collodd Ania ei brwydr ym mis Mehefin 2021, ac er bod gwyliau’r haf yn agos roedd staff yr ysgol yn help enfawr i’w theulu drwy weithio gydag asiantaethau allanol i gynnig cymorth i chwaer Ania a’i ffrindiau. Mae’r ysgol wedi codi arian ar gyfer ‘Young Lives vs Cancer’ a ‘The Joshua Tree’; elusennau sy’n parhau i gefnogi’r teulu a chymuned yr ysgol. Cafodd y teulu becyn hefyd gan yr ysgol, a oedd yn llawn lluniau a fideos o Ania o’i hamser yn yr ysgol, a oedd yn ei dangos yn chwerthin, dysgu ac yn mwynhau ei hun.