Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae hunanynysu yn parhau i fod yn fesur hanfodol o ran helpu i reoli lledaeniad coronafeirws a diogelu'r boblogaeth ond gall cyfnodau hirach o hunanynysu gael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobl yn ogystal ag effeithio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy brinder staff a niweidio'r economi ehangach.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adolygu'r dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch lleihau'r cyfnod hunanynysu er mwyn sicrhau bod ein polisïau yng Nghymru yn parhau i ddiogelu'r cyhoedd rhag y risg o drosglwyddo ymlaen ac yn lleihau effaith ynysu ar fusnesau, addysg a gwasanaethau cyhoeddus.
Yng ngoleuni'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg bod omicron yn fath llai difrifol o'r feirws, yn enwedig i bobl sydd wedi cwblhau eu prif gwrs o'r brechlyn COVID-19 ac wedi cael eu pigiad atgyfnerthu, a bod y gallu i heintio yn gostwng yn gyflym yn y pum niwrnod cyntaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi’r cyngor bod cyfnod ynysu byrrach, o'i gyfuno â dau brawf llif unffordd negyddol yn olynol, yn cael yr un effaith amddiffynnol bron â'i gwneud yn ofynnol i bobl ynysu am 10 diwrnod.
Felly, rwyf wedi penderfynu, o ddydd Gwener 28 Ionawr, y bydd y cyfnod ynysu sy'n ofynnol yn gyfreithiol yng Nghymru ar gyfer pawb sy'n profi'n bositif am COVID-19, gan gynnwys plant, yn gostwng o saith diwrnod llawn i bump. Y diwrnod llawn cyntaf o ynysu yw'r diwrnod ar ôl dechrau'r symptomau neu'r diwrnod ar ôl prawf cadarnhaol os yw person yn asymptomatig.
Er mwyn lleihau'r risg y bydd pobl yn rhoi’r gorau i ynysu tra'n dal yn heintus, cynghorir pobl yn gryf i ddechrau cymryd profion llif unffordd ar ddiwrnod pump ac i hunanynysu nes eu bod wedi cael dau ganlyniad negyddol yn olynol, 24 awr ar wahân. Bydd y newidiadau hyn hefyd yn berthnasol i feysydd mwy sensitif fel gwaith iechyd a gofal cymdeithasol a bydd canllawiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Y cynharaf y bydd person yn gallu rhoi’r gorau i ynysu, felly, fyddai ar ddiwrnod chwech ar ôl ail brawf llif unffordd negyddol.
Byddem yn rhagweld y bydd y newid hwn mewn polisi yn helpu'r rhan fwyaf o bobl i adael eu hynysu'n ddiogel ar ddiwrnod chwech, gan wybod nad ydynt bellach yn heintus.
Byddwn yn adolygu'r polisi ynysu yng Nghymru, yn enwedig os bydd difrifoldeb omicron yn newid, gostyngiad sylweddol yn effeithlonrwydd y brechlyn presennol yn erbyn salwch difrifol, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaeth, neu amrywiolyn newydd yn dod i'r amlwg.
Byddwn yn parhau i gynnig cymorth ariannol drwy'r Cynllun Cymorth Hunanynysu i bawb sy'n gymwys ac sy'n colli incwm o ganlyniad i hunanynysu. Ond byddwn yn dychwelyd i'r gyfradd dalu wreiddiol o £500 i gydnabod y cyfnod ynysu byrrach. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun, gan gynnwys cymhwysedd, ar gael ar: Cynllun cymorth hunanynysu.
Gall pobl sydd angen cymorth gyda hanfodion, megis siopa a nwyddau fferyllol, barhau i gael cymorth drwy eu hawdurdod lleol a sefydliadau gwirfoddol.